Mae Rhaglen Wella Hafal yn ymagwedd gyfoes o fynd i’r afael âg afiechyd meddwl.
Fel sefydliad a reolir gan ei aelodau – pobl â phrofiad o afiechyd meddwl difrifol a’u teuluoedd – mae Hafal wedi tynnu ar flynyddoedd lawer o brofiad o fynd i’r afael ag iechyd meddwl difrifol er mwyn gwneud y Rhaglen Wella mor effeithiol ag y bo modd.
Mae tair elfen sy’n hanfodol i adferiad fel y dangosir yn y diagram gyferbyn. Mae adferiad yn dibynnu ar fodolaeth y tair elfen yma. Mae hyn yn gosod her fawr, ond y newyddion da yw bod y tair elfen yn realistic ac yn rhai y gellir eu cyflawni.
Am beth mae’r Rhaglen?
Nid yw Rhaglen Wella Hafal yn ymwneud yn unig â meddyginiaethau neu therapïau eraill sy’n delio’n uniongyrchol â’r symptomau. Gall y rhain fod yn bwysig iawn, ond mae iechyd meddwl wedi ei adeiladu ar sylfeini ehangach o lawer.
I unrhyw unigolyn, efallai mai’r cam mwyaf tuag at wella yw dod o hyd i rywle dda i fyw, cael swydd, sefydlu perthynas dda â’u teulu … fel arfer mae ystod o wahanol bethau sy’n bwysig ar gyfer gwellhad unigolyn.
Dyma le Rhaglen Wella Hafal. Pan mae unigolion yn dioddef o afiechyd meddwl difrifol, mae’r Rhaglen Wella yn cynnig ffordd fwy methodolegol o wella’r holl agweddau ar eu bywyd.
Sut mae’r Rhaglen Wella yn gweithio?
Mae’r Rhaglen Wella yn eich annog i gael ymagwedd “Person Cyfan”, gan edrych ar y rhannau canlynol o’ch bywyd er mwyn symud ymlaen:
Yn y broses, mae’r Rhaglen yn cynnwys holl elfennau gwasanaeth lleol Hafal, gan gynnwys:
- Atgyfeirio
- Cyflwyno
- Cynllunio a gweithredu
- Adolygu
- Rheoli gwasanaethau
- Grymuso ehangach.
Beth y mae pobl yn ei ddweud am y Rhaglen Wella?
Cafodd y Rhaglen Wella ymateb cadarnhaol iawn gan ein cleientiaid, sydd wedi ei disgrifio yn:
“Gadarnhaol a gobeithiol”
“Gwneud pethau neu gynllunio i wneud pethau i wella fy mywyd”
“Helpu’n hunan neu ofyn i eraill fy helpu”
“Ymddiried yn fy hunan ac eraill”
“Taith cam-wrth-gam i iechyd”
“Cael yr ansawdd gorau posibl i fywyd”
“Darganfod pethau newydd – mae’n rymusol”