Amdanom ni

Hafal yw prif elusen Cymru sydd wedi ymrwymo i wella bywydau pobl sydd ag afiechyd meddwl neu anabledd corfforol a’u gofalwyr.

Hafal (sydd yn golygu ‘cydradd’) yw’r prif fudiad yng Nghymru sydd yn gweithio ag unigolion sydd yn gwella o broblemau iechyd meddwl – gyda phwyslais arbennig ar y rhai hynny ag afiechyd meddwl difrifol – a’u gofalwyr a’u teuluoedd. Rydym hefyd yn cefnogi eraill sydd ag ystod o anableddau a’u gofalwyr a’u teuluoedd.

Rydym yn cael ein rheoli gan y bobl yr ydym yn cefnogi; unigolion sydd wedi eu heffeithio gan afiechyd a’u teuluoedd.

Ein hamcanion allweddol yw:

  • Gwella bywydau pobl drwy sicrhau Cynlluniau Gofal a Thriniaeth holistaidd, sydd yn ffocysu ar adferiad, i bawb sydd yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd a Chynlluniau Gofal o’r un safon uchel ar gyfer ein holl grŵp cleient
  • Lleihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol i’n holl gleientiaid a gofalwyr
  • Sicrhau bod y gefnogaeth a’r cyfeillgarwch ar gael i bawb yn ein holl grŵp cleient – nid yn unig y rhai hynny sydd yn derbyn ein gwasanaethau – ond fel rhan o’u hadferiad a’u cefnogaeth barhaus.

Mae Hafal yn rhan o’r elusen Gymreig Adferiad Recovery. Darganfyddwch fwy am Adferiad Recovery yn: http://www.adferiad.org.uk/

GYRFAOEDD

Ymunwch â’n tîm talentog a dod yn rhan o fudiad ysbrydoledig sydd yn gwella bywydau pobl sydd wedi eu heffeithio gan afiechyd meddwl a gofalwyr.

PROSIECTAU PARTNER

Rydym yn darparu nifer o brosiectau cyffrous gyda’n partneriaid – dewch i ganfod mwy…

PANEL ATGYFEIRIO

Mae Panel Atgyfeirio Proffesiynol Hafal yn darparu arbenigedd o feysydd iechyd meddwl a meysydd perthnasol eraill.