Mae’r ymgyrch yn cael ei darparu gan Hafal mewn partneriaeth gyda Mind Cymru.
Mae Amser i Newid Cymru yn hanfodol oherwydd er bod problemau iechyd meddwl yn gyffredin iawn, maent dal yn medru bod yn dabŵ. Mae pobl sydd yn profi afiechyd meddwl yn aml yn wynebu stigma yn y gweithle, o fewn y gymdeithas a theuluoedd. Mae hyn yn medru gwneud bywydau y bobl hynny sydd â phroblem iechyd meddwl yn fwy anodd.
Mae Amser i Newid Cymru yn gweithio mewn sawl ffordd i godi ymwybyddiaeth a lleihau gwahaniaethu:
- Pobl Ifanc ac Ysgolion
Rydym yn gweithio gydag ysgolion ar draws Cymru er mwyn newid y ffordd y mae pobl ifanc, rhieni ac athrawon yn meddwl ac yn gweithredu ynglŷn ag iechyd meddwl.
- Hyfforddiant
Rydym yn ymrymuso pobl sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl i ddod yn ‘Addysgwyr’, yn darparu hyfforddiant gwrth-stigma a’n olrhain eu straeon.
- Sicrhau bod iechyd meddwl ar yr agenda
Rydym yn gweithio gyda gwleidyddion a’r wasg er mwyn sicrhau bod iechyd meddwl ar yr agenda yng Nghymru.
- Ymgyrchoedd
Rydym yn cynnal ymgyrchoedd proffil uchel yn y cyfryngau er mwyn newid agweddau tuag at bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru.
Ym Mawrth 2018, cyhoeddwyd y byddai Amser i Newid Cymru yn parhau i adeiladu ar ei lwyddiant dros y tair blynedd nesaf, a hynny yn sgil cefnogaeth newydd gan Lywodraeth Cymru a Comic Relief.
Bydd y cyllid newydd hwn o £960,262 yn cael ei ddefnyddio i barhau i gefnogi’r gwaith a wneir gan bobl ym mhob rhan o’r wlad i rannu eu profiadau eu hunain o broblemau iechyd meddwl ac i weithio gyda chyflogwyr, cymunedau a grwpiau i wella ymwybyddiaeth a newid ymddygiad.