
BLOGIAU DIWEDDARAF
Mesur Iechyd Meddwl Cymru
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn medru defnyddio’r pwerau sydd eisoes ganddi Felly, mae cynlluniau Llywodraeth y DU i ddiwygio’r Deddf Iechyd Meddwl yn bwrw rhagddynt: maent wedi addo Mesur Iechyd Meddwl er nad oes yna ddyddiad pendant ar gyfer hyn – ond roedd yn rhan...
Nid yw adferiad yn opsiwn hawdd
Mae angen cefnogi cleifion yn yr ysbyty. Edwch ati i ddarllen adroddiad newydd GIG Cymru Making Days Count - National Review of Patients Cared for in Secure Mental Health Hospitals - sydd yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer unrhyw un sydd yn pryderi am bobl ag...
Y Sinderela Newydd
Dros y blynyddoedd, mae llawer iawn o ymgyrchwyr fel fi wedi disgrifio iechyd meddwl fel gwasanaeth “Sinderela” o’i gymharu gyda’r gefnogaeth sydd yn cael ei ddarparu i broblemau iechyd corfforol. Ond nid yw’r disgrifiad hwn wedi ei ddefnyddio rhyw lawer yn ystod y...
Yn gwrtais ond yn gadarn
Mae’n annhebygol y bydd y pandemig yn dod i ben yn sydyn ar ddiwrnod penodol pan fydd pawb yn medru chwifio baneri a chanu clychau’r eglwys. Mae’n fwy tebygol o barhau yn y cefndir, a hynny am fisoedd lawer os nad am gyfnod amhenodol. Mae gen i bryder am hyn: pa mor...
Nadolig Llawen …a chadwch mewn cysylltiad!
Dyma neges fer i ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb. Mae’r cyfnod hwn o’r flwyddyn yn medru bod yn anodd i bobl ag afiechyd meddwl difrifol, yn enwedig y rhai sydd yn gleifion mewn ysbytai neu garchardai – ac wrth gwrs, y sawl sydd yn byw ar ben eu...
Cefndir y blog – a sut i chwarae rhan
Yn 2018, roedd Llywodraeth y DU wedi cynnal Adolygiad annibynnol a oedd yn ystyried sut i wella’r Ddeddf Iechyd Meddwl. Cyhoeddodd yr Adolygiad ei adroddiad ym mis Rhagfyr. Tra fy mod yn croesawu’r adroddiad, yn enwedig lle y mae’n ceisio dileu rhai o elfennau mwy gorthrymus sy’n ymwneud â thriniaeth orfodol, nid wyf yn credu fod yr Adolygiad wedi deall profiad cleifion o’r Ddeddf.
Dros yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi siarad gyda mwy na 100 o ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ynglŷn â’u profiad o’r Ddeddf iechyd Meddwl. Mae clywed am brofiadau pobl o’r Ddeddf wedi fy ysbrydoli i ddechrau ymgyrch newydd i gasglu barn ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yng Nghymru: Blog Jo.
Pwy yw Jo Roberts?
Dyma fy stori i: rwyf wedi gorfod derbyn triniaeth orfodol ar rai adegau yn fy mywyd ac wedi fy nghadw yn yr ysbyty am gyfnodau. Rwyf dal o dan orchymyn y Swyddfa Gartref. Wedi bod drwy hyn, rwy’n teimlo yn gryf ein bod angen gwasanaeth sydd yn gweithio mor galed ag sydd yn bosib, er mwyn atal pobl rhag gorfod mynd i’r ysbyty, ac sydd yn eu trin gyda pharch pan nad oes dewis ond eu gorfodi i dderbyn triniaeth.
Roeddwn wedi ymgyrchu yn wreiddiol am Ddeddf Iechyd Meddwl nôl ar droad y ganrif hon pan oedd drafft newydd o’r Ddeddf yn cael ei ystyried gan y Senedd. Roeddwn wedi chwarae rhan flaenllaw yn gwrthwynebu drafft newydd o’r ddeddf nad oedd yn ein harwain i’r cyfeiriad cywir. Yn y pendraw, dyna’r oll a wnaed oedd diwygio rhannau o’r Ddeddf Iechyd Meddwl.
Pam wyf yn ysgrifennu’r Blog hwn?
Am fy mod angen eich help! Gyda’n cefnogaeth ni, mae’r elusen Hafal, sy’n cael ei harwain gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, yn medru hyrwyddo ein persbectif ni ac ymladd dros Ddeddf Iechyd Meddwl sydd yn flaengar ac yn briodol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain – Deddf sydd yn rhoi cytundeb teg i gleifion a gofalwyr yng Nghymru.
Sut wyf yn medru cael mwy o wybodaeth am yr adolygiad o’r Ddeddf Iechyd Meddwl?
Am fwy o wybodaeth am Adolygiad Annibynnol Llywodraeth y DU o’r Ddeddf Iechyd Meddwl, ewch os gwelwch yn dda i: https://www.gov.uk/government/groups/independent-review-of-the-mental-health-act
Er mwyn darllen trosolwg o’r Ddeddf bresennol, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.iechydmeddwlcymru.net/deddf-iechyd-meddwl/
Sut wyf yn medru chwarae rhan?
Os ydych yn cytuno gyda’r pwyntiau yr wyf yn eu gwneud yn fy Mlog, neu os hoffech chi ychwanegu eich pwyntiau eich hun, e-bostiwch fi os gwelwch yn dda josblog@hafal.org neu ysgrifennwch ataf yma – Hafal, Uned B3, Parc Technoleg Lakeside, Ffordd y Ffenics, Llansamlet, Abertawe, SA7 9FE.
Fel arall, danfonwch neges ataf drwy ddefnyddio’r hashnod canlynol: #josblog