Chwarae Rhan

Chwarae Rhan

Yn Hafal, rydym yn cefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl – gyda phwyslais arbennig ar y rhai hynny sydd ag afiechyd meddwl difrifol – a’u gofalwyr a’u teuluoedd: rydym hefyd yn cefnogi eraill ag ystod o anableddau a’u gofalwyr a theuluoedd.

Mae Hafal wedi ymrwymo i ddarparu help, cymorth, cyngor a chyfeillgarwch i bobl yng Nghymru, fel nad ydynt yn gorfod ymdopi ar ben eu hunain.

Mae hyn ond yn bosib drwy eich cefnogaeth chi. Mae yna lawer o ffyrdd i chi chwarae rhan yn ein gwaith. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda karen.ozzati@adferiad.org.uk neu ffoniwch 01792 816000