Diolch i chi am ystyried codi arian ar ran Hafal! Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich cynlluniau! Beth bynnag yr ydych yn penderfynu ei wneud er mwyn codi arian ar ein rhan, byddwn yno bob cam o’r ffordd yn eich cefnogi.
Bydd pob punt yr ydych yn codi yn mynd i’n helpu ni gefnogi pobl ar draws Cymru sydd yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl, a’u teuluoedd hefyd.
Os ydych yn gwybod yn barod sut yr ydych am fynd ati i godi arian i Hafal, dywedwch wrthym am eich digwyddiad.
Os hoffech gael help yn penderfynu, neu os am drafod eich opsiynau, yna cysylltwch os gwelwch yn dda gyda karen.ozzati@adferiad.org.uk neu ffoniwch ni ar 01792 816000.
O Arwerthiant Cacenni i Gwis Tafarn, Salsa-thons i ddringo Everest, mae eich cefnogaeth mor bwysig i ni. Diolch!