Newyddion diweddaraf:
Ymchwil a Datblygu – Chwefror 2016
Beth fyddwn yn ei wneud?
Rydym yn dylunio rhwydwaith cymorth ar-lein ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Bydd yn cael ei arwain gan y grwpiau yma hefyd er mwyn eu helpu i ddelio â materion iechyd meddwl difrifol. Bydd y porthol ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ac yn hyrwyddo adferiad drwy gynnwys gwasanaethau megis fforwm, newyddion cyfoes, offer adferiad a chyfeirio at wasanaethau lleol.
Pam ydym yn gwneud hyn?
Ar hyn o bryd, nid oes yna unrhyw lwyfannau cyfryngau cymdeithasol sydd yn medru mynd i’r afael â materion iechyd meddwl difrifol neu ar gael i siaradwyr Cymraeg. Yn ychwanegol at hyn, bydd y porthol yn ceisio mynd i’r afael â’r unigrwydd a’r arwahanrwydd sydd yn cael eu profi gan lawer o bobl yng Nghymru sydd wedi eu heffeithio gan afiechyd meddwl. Bydd y gwasanaeth yn helpu defnyddwyr i gysylltu ag unigolion eraill er mwyn meithrin cyfeillgarwch newydd a chysylltiadau cymunedol.
Sut y byddwn yn gwneud hyn?
Byddwn yn dechrau drwy ddatblygu’r prosiect gyda grŵp bach o ddefnyddwyr Hafal a fydd yn helpu i ddylunio’r safle a’n pennu’r cynnwys. Bydd hyn wedyn yn cael ei lansio drwy wefan ac ap ar y ffôn. Byddwn yn rheoli’r porthol a bydd yn cael ei reoli yn y pendraw gan staff a defnyddwyr gwasanaeth. Unwaith bo’r gymuned ar-lein yn dechrau ffynnu, byddwn yn cyflwyno’r adnodd ar draws Cymru lle y bydd pobl yn medru cysylltu â’r rhwydwaith mewn mwy na 100 o leoliadau cymunedol megis llyfrgelloedd, ysgolion a phrosiectau lleol. Bydd hyn yn cynnwys gweithdai a chymorth i helpu cynifer o bobl ag sydd yn bosib cysylltu gyda’r gwasanaeth.
Ble fyddwn yn gwneud hyn?
Bydd y porthol yn cael ei leoli yng Nghymru ond bydd modd cysylltu o unrhyw le. I ddechrau, bydd y gwasanaeth yn cael ei hysbysebu a’i gynnig i ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr Hafal a bydd modd cysylltu hefyd mewn mwy na 100 o safleoedd cymunedol ar hyd a lled y 22 sir. Byddwn yn sicrhau bod pobl mewn ardaloedd gwledig hefyd yn derbyn cymorth a mynediad lleol at wasanaethau drwy sicrhau bod y porthol ar gael mewn llyfrgelloedd, ysgolion a llawer o lefydd cymunedol eraill.
Pwy fydd yn chwarae rhan?
Bydd y prosiect yn cael ei arwain gan Hafal mewn partneriaeth â’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl. Y ffocws fydd defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ac rydym yn gobeithio darparu’r gwasanaeth i 1350 o bobl o leiaf, drwy gydweithredu â 50 o fudiadau eraill o leiaf.
Erbyn pryd y byddwn yn gwneud hyn?
Byddwn yn cyflawni hyn mewn tair blynedd drwy gwblhau’r tri cham canlynol.
Blwyddyn 1af
- Datblygu ap gydag o leiaf 25 defnyddiwr gwasanaeth.
- Cysylltu gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl a hysbysebu’r gwasanaeth.
- Lansio’r porthol.
- Canfod y 100 lleoliad ar gyfer ei gyflwyno ar draws Cymru
2ail Flwyddyn
- Hyrwyddo’r gwasanaeth newydd a chynnal gweithdai er mwyn ei arddangos.
- Sefydlu’r 100 100 porthol ar draws Cymru.
- Marchnata’r gwasanaeth.
- Gwerthuso’r gwasanaeth a’r defnydd a wneir ohono.
3edd Flwyddyn
- Parhau i fonitro’r safle.
- Parhau gyda’r gwaith marchnata, gweithdai a dod o hyd i leoliadau newydd.
- Cwblhau gwerthusiad terfynol o sut y mae’r gwasanaeth wedi gwireddu ei addewidion.