Mae Hafal Croesffyrdd yn darparu cefnogaeth, gwybodaeth a chymorth ymarferol i ofalwyr di-dâl o bob oedran a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt yn siroedd Sir Benfro, Ceredigion a Phowys.
Mae ein holl wasanaethau gofal wedi eu teilwra i anghenion unigolion, i’r bobl o bob oedran sydd yn byw ag ystod o anableddau a chyflyrau iechyd. Mae’r gwasanaethau yn medru cael eu darparu yn y cartref neu yn y gymuned ac yn cynnig cyfeillgarwch ynghyd â lefel uchel o ofal personol.
Mae Hafal Croesffyrdd yn cynnig ystod o wasanaethau o ansawdd er mwyn cefnogi anghenion gofalwyr di-dâl. Mae’r rhain yn cynnwys:
· Gofal seibiant
· Gofal yn ystod y dydd
· Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth
Cliciwch yma er mwyn darllen yr hyn y mae Hafal Croesffyrdd yn medru cynnig yn eich ardal chi: