
Mae Hafal yn un o bedair elusen sydd yn ffurfio Mental Health UK, rhwydwaith o bedair elusen genedlaethol ar draws Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon sydd yn ceisio gwella bywydau pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ynghyd â chefnogi gofalwyr.
Gyda’i gilydd, mae’r pedwar mudiad, Rethink Mental Illness, Support In Mind Scotland, Hafal, a MindWise, wedi bod yn gweithio am fwy na 40 mlynedd yn darparu gwasanaethau, gwybodaeth a chyngor i unrhyw un sydd wedi eu heffeithio gan afiechyd meddwl.
Rydym yn cynnal mwy na 400 o wasanaethau a 200 o grwpiau cymorth gwirfoddolwyr mewn cymunedau ar draws y DU. Mae mwy na 90,000 o bobl yn dibynnu ar ein mudiadau bob blwyddyn er mwyn eu helpu i ymdopi ag argyfyngau, byw’n annibynnol a sylweddoli nad ydynt yno ar ben eu hunain. Y llynedd, roedd ein gwybodaeth iechyd sydd ar-lein wedi derbyn 3.6 miliwn o drawiadau.
Er y gwaith sylweddol hwn, rydym yn gwybod fod llawer iawn mwy o bobl angen ein help. Mae afiechyd meddwl yn effeithio ar fwy o bobl bob blwyddyn na chancr a chlefyd y galon. Bydd un ym mhob pedwar ohonom yn y DU yn cael ein heffeithio gan broblem iechyd meddwl mewn blwyddyn arferol. Mae afiechyd meddwl difrifol yn medru effeithio ar unrhyw un, er ei fod yn aml yn dod i’r amlwg pan fydd unigolyn yn ei arddegau neu’i ugeiniau cynnar.
Mae byw gyda chyflwr iechyd meddwl yn medru effeithio ar sawl agwedd o’ch bywyd bob dydd, a hynny o’ch iechyd corfforol i’ch cartref, eich gwaith a rheoli eich arian. Mae modd lliniaru sgil-effaith iechyd meddwl os ydych yn elwa o ymyrraeth gynnar a chymorth. Ond mae dal yn wir eich bod yn fwy tebygol o dderbyn y cymorth brys sydd angen arnoch os ydych yn torri eich coes, a hynny o gymharu pan eich bod yn delio ag argyfwng yn sgil problem iechyd meddwl.
Drwy gefnogi Mental Health UK, mae modd i chi ein helpu i newid hyn.
Er mwyn canfod mwy am bartneriaeth Mental Health UK a’r gwaith, ewch i: https://www.mentalhealth-uk.org
Rydym yn gweithio gyda’r mudiadau canlynol:
Roedd Grŵp Bancio Lloyds wedi lansio partneriaeth newydd dros gyfnod o ddwy flynedd gyda Mental Health UK yn Ionawr 2017. Drwy’r bartneriaeth, mae Grŵp Bancio Lloyds yn anelu i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cysylltiad rhwng problemau iechyd meddwl ac ariannol, gan annog trafodaethau rhwng cwsmeriaid a chydweithwyr – a chasglu o leiaf £2 miliwn bob blwyddyn mewn swyddfeydd a changhennau ar draws y DU.
Fel rhan o’r bartneriaeth hon, mae Grŵp Bancio Lloyds yn mynd i weithio gyda Mental Health UK er mwyn creu Gwasanaeth Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian arloesol a fydd yn cynnig cymorth i bobl sydd yn profi trafferthion iechyd meddwl ac ariannol.
Dywedodd Prif Weithredwr Hafal Alun Thomas: “Rydym wrth ein bodd yn darparu Gwasanaeth Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian dwyieithog yng Nghymru fel rhan o Mental Health UK, mewn partneriaeth gyda Grŵp Bancio Lloyds. Rydym yn gobeithio y bydd Gwasanaeth Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian newydd, sydd yn cael ei lansio yn hwyrach eleni, yn darparu llinell fywyd wirioneddol i ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, yn rhoi’r cymorth amserol sydd angen arnynt i reoli eu cyllid.”
Dywedodd David Oldfield, Cyfarwyddwr Manwerthu a Chyllid Cwsmeriaid y Grŵp a Noddwr Gweithredol ar gyfer Anabledd yng Ngrŵp Bancio Lloyds:
“Mae’n amlwg i ni fod ein cydweithwyr yn pryderi am iechyd meddwl ac yn cydnabod pa mor anodd yw hi weithiau i drafod y testun hwn. Rwyf wrth fy modd fod y Grŵp yn gweithio gyda Mental Health UK er mwyn codi ymwybyddiaeth a lleihau’r stigma sydd ynghlwm ag afiechyd meddwl. Mae’r ffaith fod ein cydweithwyr yn teimlo’n angerddol am y mater yn allweddol i lwyddiant ein perthynas gyda’n partneriaid Elusen a’r ffaith ein bod yn cadw at yr ymrwymiadau yr ydym wedi eu gwneud gyda’n Cynllun Helpu Prydain i Ffynnu. Mae hanes da gennym o godi arian sylweddol gyda chymorth ein cydweithwyr sydd hefyd yn chwarae rôl amlwg o fewn ein cymunedau lleol. Yn sgil pwysigrwydd iechyd meddwl a llesiant da, rwyf yn hyderus y byddwn, gyda chefnogaeth ein cydweithwyr, yn medru casglu £2 miliwn eleni er mwyn helpu Mental Health UK i gynnig cymorth a help i’r sawl sydd ei angen.”
Mae modd i chi ddarllen mwy am y fenter ar wefan Mental Health UK.
Astudiaeth Achos Iechyd Meddwl ac Arian: Beth
Mae’r prosiect Iechyd Meddwl ac Arian yn anelu i gefnogi pobl ag afiechyd meddwl ac sydd hefyd yn profi problemau ariannol Roeddem wedi siarad gyda Beth am ei phrofiad o afiechyd meddwl a dyled ac wedi gofyn iddi pam fod y prosiect Iechyd Meddwl ac Arian mor bwysig.
Profodd Beth orbryder ac iselder pan oedd yn ifanc iawn. Yn 2010, roedd wedi dal y chwarenglwyf gan adael iddi deimlo yn isel iawn ac nid oedd am fynd allan o’r gwely ac roedd yn profi pyliau o banig. Arweiniodd hyn at ddiagnosis o Anhwylder Gorbryder Cyffredinol ac Iselder. Canfu Beth fod y problemau hyn yn ei gwneud hi’n anodd i weithio a bu’n rhaid iddi adael ei swydd. Mae ei theulu wedi bod yn gefnogol iawn o’r cychwyn cyntaf.
Mae Beth yn cyfaddef ei bod hi wastad wedi cael problemau gydag arian. Hyd yn oed fel merch fach, roedd arian yn llosgi twll yn ei phoced. Yn y brifysgol, roedd ganddi arian o’r holl fenthyciadau myfyrwyr yn syth ac roedd hyn wedi gwneud pethau’n waeth yn syth. “Roeddwn yn teimlo fel bod yr arian yma i’w wario.” Pan ddechreuodd Beth weithio, parhaodd i wario’r arian nad oedd ganddi. “Pan oeddwn yn teimlo’n isel, roeddwn am wario arian er mwyn gwneud fy hun i deimlo’n well.” Roedd hyn yn medru amrywio o brynu paned o de i brynu gliniadur newydd. Roedd cerdyn credyd wedi ei chaniatáu i gasglu dyled bellach o £4,000. Fodd bynnag, roedd wedi osgoi dweud wrth unrhyw un, yn enwedig ei rhieni.
Roedd Beth wedi disgrifio ei gorbryder ar y pryd fel rhywbeth “dychrynllyd”. Roedd wedi dechrau meddwl a sut i gynyddu ei hincwm, yn teimlo’n sâl dry’r amser ac yn methu â chysgu. Roedd dyledion yn gwneud iddi deimlo fel bod y byd ar ben.
Yn y pendraw, dywedodd wrth ei phartner am ei chyfrinach fawr. Roedd yn garedig iawn ac wedi rhoi sicrwydd iddi fod modd iddynt ddelio gyda hyn gyda’i gilydd. Oni bai am ei ddealltwriaeth, nid yw Beth yn teimlo y byddai wedi llwyddo i ddelio gyda’r sefyllfa. Roedd ei phartner wedi creu taenlen yn nodi’r holl arian a oedd yn cael ei wario fel ei bod yn gwybod beth oedd ei therfynau gwario wythnosol. Mae Beth wedi canfod hefyd fod lwfans arian wythnosol wedi ei helpu i gadw ei gwariant o dan reolaeth. Mae wedi synnu fel mae ei hagwedd wedi newid pan eich bod yn medru gweld faint sydd i’w wario.
Pan mae Beth yn teimlo’n isel neu’n orbryderus, mae dal yn teimlo fel gwario arian ond mae ganddi ddisgyblaeth nawr i roi ei cherdyn credyd i’w phartner er mwyn ei hatal rhag gwario.
Mae Beth yn teimlo bod ei pherthynas gydag arian yn well; mae ei phartner yn dweud fod pethau wedi gwella’n ddramatig.
Darn allweddol o gyngor sydd gan Beth i eraill yw y dylid mynd ati i rannu cyfrinach gyda rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo. Mae hyn yn medru lliniaru unrhyw bwysau ac yn eich helpu chi i weld pethau yn fwy eglur. Mae Beth yn croesawu menter Grŵp Bancio Lloyds a Mental Health UK i gefnogi pobl ag afiechyd meddwl sydd â phroblemau ariannol. Mae’n teimlo fod hyn yn gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth a darparu cymorth i bobl sydd yn profi’r ddwy broblem yma.