Mae Hafal yn golygu ‘cydradd’ ac rydym wedi bod yn ymgyrchu am ddegawdau er mwyn ceisio sicrhau bod pobl ag afiechyd iechyd meddwl yn derbyn hawliau cydradd o ran gofal, llety, addysg, cyllid a mwy. Yn anffodus, rydym yn gwybod y bydd angen i ni barhau i ymgyrchu am ddegawdau i ddod.
Ond a oeddech yn gwybod ein bod hefyd yn gofalu am bobl sydd â dementia, plant sydd â chyflyrau sydd yn cyfyngu ar eu bywydau a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol.
Pam fod rhodd mewn ewyllys mor bwysig?
Mae’r rhoddion arbennig yma mor bwysig i Hafal a’r bobl yr ydym yn cefnogi.
Dychmygwch fedru darparu cyswllt parhaus a chyfeillgar i rywun sydd yn teimlo’n gwbl unig, gofal seibiant i rywun ag anableddau dysgu, eu gofalwyr neu wyliau i blentyn sydd yn wynebu heriau iechyd sylweddol.
Rydych yn medru gwneud hyn drwy adael rhodd yn eich ewyllys.
Mae gwybod am eich rhodd yn ein helpu ni gynllunio ar gyfer y dyfodol, ac yn y cyfnod ansicr hwn, nid yw rhodd yn eich ewyllys erioed wedi bod cyn bwysiced.
Sut ydym yn cael ein hariannu
Ar y funud, mae’r rhan fwyaf o’n hincwm yn dod o gontractau gyda byrddau iechyd, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu ein bod yn medru cael ein heffeithio gan doriadau mewn gwariant a newid mewn blaenoriaethau ariannu. Rydym angen rhoddion gan bobl sydd yn cefnogi ein gwaith er mwyn ein helpu i barhau i ddarparu’r mathau o wasanaethau sydd yn newid bywydau.
Pan ddaw’r amser
Pan ddaw’r amser, ac os hoffech wneud hynny, yna ystyriwch gefnogi elusen fel Hafal drwy adael rhodd yn eich ewyllys. Wedi i chi ofalu am eich anwyliaid, byddai rhodd o 1% yn unig o’ch ystâd yn medru golygu bod Hafal yn medru parhau i ymgyrchu a newid bywydau.
Yr hyn sydd angen i chi wybod
Os ydych chi, ar ôl gofalu am eich anwyliaid, yn dymuno gadael rhodd yn eich ewyllys i Hafal, byddwch angen cyfeiriad ein helusen a’n rhif cofrestredig.
- Hafal, Uned B3, Parc Technoleg Lakeside, Ffordd y Ffenics, Llansamlet, Abertawe, SA7 9FE
- Rhif Elusen Gofrestredig 1093747
A ydych am siarad gyda rhywun ynglŷn â gadael rhodd?
Os hoffech drafod gadael rhodd yn eich ewyllys i Hafal, yna cysylltwch gyda Rachal ar 01792 816000 neu karen.ozzati@adferiad.org.uk