Gellinudd

Ewch i wefan Canolfan Adferiad Gellinudd yn: gellinudd.org.uk

 

Lawrlwythwch ein canllaw i Ganolfan Adfer Gellinudd

 

Mae Canolfan Adferiad Gellinudd wedi ei dylunio a’i datblygu i roi’r cyfle gorau posib i’n Gwesteion i brofi adferiad.

Wedi’i osod mewn ardal breswyl wledig, rhai munudau o Abertawe, arfordir y Gwŷr a Bannau Brycheiniog, mae’r Ysbyty yn cael ei reoli gan yr elusen iechyd meddwl Gymreig Hafal.

Mae gwesteion yn mwynhau nifer o weithgareddau, yn y Ganolfan ac yn y gymuned leol: maent yn medru defnyddio’r gampfa, ystafell aml-ffydd, caffi a gofod therapiwtig awyr agored; maent hefyd yn medru mwynhau cerddoriaeth a gweithgareddau celf, astudio am gymwysterau achrededig, cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored… mae’r rhestr yn un hirfaith!

Mae gwesteion yn cael ystafell en-suite eu hunain ac maent yn medru personoli’r ystafell i adlewyrchu ei chwaeth eu hunain. Rydym hefyd yn cynnig croeso cynnes i aelodau o’r teulu a gofalwyr sydd yn ymweld, gyda man chwarae, ystafell deulu a lolfeydd.

Fel gwasanaethau eraill Hafal, mae Canolfan Adferiad Gellinudd yn cael ei rheoli mewn partneriaeth gyda’r bobl sydd yn defnyddio’r Ganolfan ac mae Gwesteion yn chwarae rhan weithgar yn cynllunio, gwerthuso a datblygu’r gwasanaeth.

Mae Canolfan Adferiad Gellinudd yn gyfleuster o’r radd flaenaf. Dyma’r unig ysbyty o’i fath yng Nghymru ac yn y DU. Fel cydnabyddiaeth o arloesedd y Ganolfan, dyfarnwyd Gwobr Arfer Da Pedro Montellano iddi gan y Global Alliance of Mental Illness Advocacy Networks-Europe (GAMIAN).

Ffôn: 01792 830216
E-bost: gellinudd@hafal.org

Matthew Pearce Head of Communications