Gwasanaethau Cyfiawnder Troseddol

Mae Hafal yn darparu ystod o wasanaethau cyfiawnder troseddol ar draws Cymru sydd yn anelu i helpu troseddwyr ag afiechyd meddwl i ymatal rhag ail-droseddu.

 

Canllaw Goroesi

Mae Hafal wedi cyhoeddi canllaw ar-lein i bobl ag afiechyd meddwl sydd yn dod i gysylltiad gyda’r system cyfiawnder troseddol.

Mae’r canllaw yn rhoi cyngor allweddol i chi ar eich hawliau a’ch cyfrifoldebau a sut y mae modd i chi sicrhau’r cymorth gorau.

Darllenwch y canllaw yma.

 

Gwasanaeth Oedolyn Priodol

Pan fydd unigolyn sy’n agored niwed yn cael ei arestio, mae angen oedolyn priodol arno er mwyn ei gynorthwyo tra’n cael ei ddal yn y ddalfa. Mae Hafal yn darparu gwasanaethau oedolyn priodol i Heddlu De Cymru, Dyfed Powys, Gwent a Gogledd Cymru. Mae’r gwasanaeth yn cael ei gynnig 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.

Mae oedolion priodol yn y cefnogi, cynghori ac yn cynorthwyo’r unigolyn pan fydd yn cael ei ddal yn y ddalfa. Maent yn sicrhau bod yr heddlu yn ymddwyn yn deg ac yn parchu hawliau’r unigolyn. Mae oedolion priodol yn helpu’r cyfathrebu rhwng yr heddlu, yr unigolyn ac eraill ond nid ydynt yn rhoi cyngor cyfreithiol.

Mae ein hoedolion priodol yn gweithio gyda phobl sy’n agored i niwed ac sy’n meddu ar nodweddion gwahanol iawn:

  • Afiechyd meddwl
  • Trafferthion dysgu
  • Anableddau dysgu
  • Anhwylder Sbectrwm Awtistig
  • Pobl ifanc sy’n 17 mlwydd oedd (nid yw Hafal yn darparu oedolion priodol i bobl ifanc sydd yn iau na 17)
  • Pobl sy’n agored i niwed yn sgil natur y drosedd

Mae Hafal yn darparu oedolion priodol hefyd i fudiadau allanol gan gynnwys ymchwiliadau gan yr Adran Waith a Phensiynau a chyfweliadau i droseddwyr a thystion. Os hoffech wneud cais am oedolyn priodol, e-bostiwch appropriateadult@hafal.org.

Gwyliwch ein adroddiad ar gwasanaeth oedolyn priodol Hafal ar HafalTV isod.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth neu i wneud cais i ddod yn oedolyn priodol, cliciwch yma.

 

Hafal Gwasanaeth Noddfa Iechyd Meddwl

Mae’r Noddfa yn wasanaeth newydd sydd ar gael y tu hwnt i oriau swyddfa arferol ac mae’n cynnig cefnogaeth ymarferol a therapiwtig, sydd yn canoli ar y person, i bobl sydd mewn risg o brofi argyfwng iechyd meddwl. Mae’r gwasanaeth ar gael 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, rhwng 6pm a 3am.

Mae’r gwasanaeth yn cael ei gynnig mewn awyr-gylch groesawgar a chartrefol gyda lolfa fawr, cegin/man bwyta, cawod a chyfleusterau golchi dillad. Mae yna fannau preifat hefyd ar gyfer y sawl sydd angen amser tawel a chymorth 1:2:1. Mae’r Noddfa yn ceisio lleihau’r nifer sydd yn gorfod mynd i’r ysbyty a’n lleihau’r risg o bobl yn profi niwed yn eu cartrefi. Bydd diogelwch a llesiant unigolion yn cael eu hasesu yn llwyr cyn iddynt ddychwelyd adref, gydag atgyfeiriadau yn cael eu gwneud i wasanaethau eraill fel sydd angen.

Rydym yn medru cefnogi pobl sy’n 17 mlwydd oed a 9 mis a’n hŷn ac sydd o bosib yn profi:-

• Trafferthion neu anhwylderau sydd yn ymwneud gyda’r pandemig coronafeirws
• Straen a/neu orbryder
• Hwyl isel
• Trafferthion ariannol
• Trafferthion ag unigrwydd, arwahanrwydd neu sydd yn poeni am deulu neu berthynas
• Yn dioddef trais yn y cartref
• Iechyd meddwl sy’n dirywio yn sgil ystod o ffactorau

Mae modd gwneud atgyfeiriadau drwy gyfrwng eich Pwynt Cyswllt Sengl (SPOA) lleol:

  • Abertawe: 01792 517 039
  • Castell-nedd Port Talbot: 01639 862 032

 

Am fwy o wybodaeth:

Cliciwch yma er mwyn darllen y rhifyn Cyfiawnder Troseddol o Iechyd Meddwl Cymru er mwyn canfod mwy am faterion sy’n ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol.

Cysylltwch gyda ni os ydych am fwy o wybodaeth am unrhyw un o’n gwasanaethau cyfiawnder troseddol.