Hafal yw prif elusen Cymru ar gyfer pobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr. Yn gwasanaethu pob ardal o Gymru, mae Hafal yn fudiad sydd yn cael ei reoli gan y bobl y mae’n cefnogi: unigolion sydd â’u bywydau wedi eu heffeithio gan afiechyd meddwl difrifol.
Pam Gwirfoddoli
• Dysgu sgiliau newydd
• Rhoi cefnogaeth i eraill
• Ymarfer y sgiliau sydd gennych eisoes
• Dod yn fwy hyderus
• Casglu syniadau gan bobl eraill
• Creu trefn bob dydd
• Gwneud cyfeillgarwch newydd a
• Elwa o’r Geirdaon – a chysylltu gyda’ch cymuned leol chael hwyl yn gwneud rhywbeth newydd!
Pwy sydd yn medru gwirfoddoli?
Mae gwirfoddolwyr rhwng 16 a 18 mlwydd oed yn cael eu cyfyngu i rolau penodol ac mae gwirfoddolwyr sydd yn 18 mlwydd oed a’n hŷn yn medru mynegi diddordeb mewn unrhyw un o’r rolau gwirfoddoli.
Ble mae modd gwirfoddoli?
Mae prosiectau gan Hafal ym mhob un o’r 22 sir yng Nghymru, yn amrywio o ran cefnogaeth, gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i, ganolfannau adferiad, rhaglenni ymyrraeth gynnar, grwpiau gofalwyr a thai â chymorth.
Y mathau o rolau gwirfoddoli
• Gwirfoddolwr grŵp cerdded
• Gwirfoddolwr gyda’r cyfryngau
• Gwirfoddolwr gweithgareddau grŵp
• Gwirfoddolwr gyrrwr sy’n cyfeillio
• Gwirfoddolwr grŵp cerddorol
• Gwirfoddolwr Oedolyn Priodol
• Gwirfoddolwr cynllunio gweithgareddau
• Gwirfoddolwr gyda’r gwaith awyr agored gweinyddol
Am fwy o wybodaeth am wirfoddoli neu i wneud cais am ffurflen mynegi diddordeb i fod yn wirfoddolwr, ewch os gwelwch yn dda i: volunteering@hafal.org
01792 816600