Diolch am ystyried gwneud rhodd i Hafal.
Bydd eich rhodd yn medru helpu sicrhau ein bod yno i gefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, a’u teuluoedd, pan eu bod ein hangen a chyn hired ag sydd angen.
Rydych yn medru trefnu cynnig rhodd yn gyson neu drefnu rhodd un tro yma. Byddai eich rhodd yn medru ein helpu mewn cynifer o ffyrdd:
- Byddai £10 yn medru cynnig croeso cynnes a’r wybodaeth a’r cyngor sydd angen ar bobl drwy gyfrwng un o’n sesiynau galw heibio
- Byddai £25 yn medru cynnig clust i wrando a sgwrs gyfeillgar fel rhan o’n Haddewid Hafal, a hynny i rywun yn eich cymuned sydd angen cefnogaeth gyda’u hiechyd meddwl.
- Byddai £50 yn medru ein helpu gyda hadau a chyfarpar garddio sydd yn cael eu defnyddio yn ein prosiectau garddio ar draws Cymru.
- Byddai £150 yn medru prynu’r cyfarpar a’r deunydd sydd angen arnom er mwyn sicrhau bod pawb sydd yn ymweld gyda’n canolfannau adnoddau yn medru gwneud gweithgaredd y maent yn mwynhau.
- Byddai £500 yn medru cynnig seibiant byr i blentyn sydd â chyflwr hirdymor neu’n cyfyngu ar ei fywyd.
Am fwy o wybodaeth am ffyrdd eraill i wneud rhodd, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda hafal@hafal.org neu mae modd postio rhodd i Hafal, Uned B3, Parc Technoleg Lakeside, Ffordd y Ffenics, Llansamlet, Abertawe, SA7 9FE.
Rydych hefyd yn medru cyfrannu at Hafal heb unrhyw gostau ychwanegol tra’n siopa ar-lein. Dewiswch Hafal fel eich elusen ar Give as you Live ac Amazon Smile a byddwn yn derbyn rhodd! Cliciwch yma er mwyn dechrau:
Mae Smilematic yn estyniad o Google Chrome a fydd yn troi unrhyw beth yr ydych yn prynu ar Amazon i mewn i roddion AmazonSmile. Mae modd ei osod yn hawdd ar eich porwr gwe – mae ar gael yma.