Cymru Iachach, a gyhoeddwyd ym Mehefin 2018, yw cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n amlinellu gweledigaeth o ‘ddull system gyfan tuag at iechyd a gofal cymdeithasol’ sydd yn ffocysu ar iechyd a lles ac atal salwch corfforol a meddyliol.
Dyma’r tro cyntaf y mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu cynllun a rennir ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r cynllun yn ffocysu ar ‘ddarparu gwasanaethau ar y cyd, mewn lleoliadau cymunedol’, a’r nod yw creu ‘newid o ofal iechyd sydd yn ffocysu ar drin pobl pan eu bod yn sâl i un sydd yn darparu gwasanaethau sydd yn cefnogi pobl i barhau’n iach, arwain bywydau iachach a byw yn annibynnol cyn hired ag sydd yn bosib.’
Mae Cronfa Trawsnewid gwerth £100 miliwn wedi ei sefydlu er mwyn helpu i weithredu’r cynllun.
Barn Hafal ar Cymru Iachach
Mae Hafal yn ymgysylltu yn gyson gyda chynlluniau strategol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (mewn meysydd na sydd wedi eu datganoli). Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio’n galed i elwa o’r mwyaf o strategaeth Llywodraeth Cymru “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl”; rydym hefyd yn ceisio dylanwadu ar adolygiad newydd Llywodraeth y DU o’r Ddeddf Iechyd Meddwl.
Mae’r fath weithgareddau yn gosod baich ar ein hadnoddau cyfyng o ran materion cyhoeddus ond mae’n amlwg yn waith pwysig o ran ein cenhadaeth i wella bywydau’r bobl hynny sydd wedi eu heffeithio gan afiechyd meddwl difrifol ac eraill (gan ystyried y cylch gorchwyl ehangach a gytunwyd flwyddyn yn ôl) sydd ag anableddau ac anghenion gofal cymdeithasol a’u gofalwyr.
Fodd bynnag, mae’r gweithgaredd hwn yn digwydd yng nghyd-destun ehangach polisi hirdymor Llywodraeth Cymru o ran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol sydd o bosib yn fwy arwyddocaol nag, er enghraifft, iechyd meddwl neu gynlluniau sydd yn ymwneud yn benodol gyda gofalwyr.
Pwrpas y nodyn briffio hwn yw gwyntyllu’r hyn yr ydym yn ei ddeall am bolisi Llywodraeth Cymru ac ystyried ei oblygiadau ar ein cenhadaeth.
Mae’r nodyn briffio yma yn amserol am ddau reswm:
- Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi “Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol” yn ddiweddar, sydd yn cyflwyno gweledigaeth newydd, hirdymor.
- Bydd Prif Weinidog newydd yn cael ei apwyntio yn yr hydref; yng nghyd-destun gwleidyddiaeth Cymru, efallai y bydd hyn yn dynodi newid cyfeiriad mwy sylweddol na’r hyn sydd yn deillio o etholiad y Cynulliad Cenedlaethol (yn hanes datganoli yng Nghymru, nid oes Prif Weinidog wedi ei ddisodli hyd yma yn sgil etholiad).
A yw hyn yn fusnes i Hafal?
Mae yna ddiddordeb amlwg gan ein cleientiaid yn y modd y mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu, ac nid yn unig o ran y gwasanaethau iechyd meddwl a’r gwasanaethau i ofalwyr. Er bod rhaid i ni barhau i ffocysu llawer iawn o’n gwaith ar strategaethau tymor byr i ganolig Llywodraeth Cymru a strategaethau sydd yn ymwneud yn benodol gyda chleientiaid, ni ddylem ddiystyru’r darlun ehangach.
Mae hyn yn gwneud i ni ofyn a ydym yn medru dylanwadu ar y darlun ehangach: os nad yw hyn yn bosib, ni ddylem ddefnyddio ein hadnoddau os nad oes llawer iawn o obaith sicrhau’r canlyniadau yr ydym yn eu dymuno. Dyma gwestiwn da gan fod rhaid i ni barhau i fod yn realistig.
Fodd bynnag, mae hanes gan Hafal o ddylanwadu ar y lefel hon. Wedi gwrthwynebu’r cynnig i greu 22 Bwrdd Iechyd Lleol yn 2003, roeddem wedi ymgyrchu (gydag ychydig iawn o gefnogaeth gan eraill) o blaid diwygio’r drefn a gwnaed hyn yn 2009. Roedd ein dylanwad wedi ei gydnabod gan benderfyniad y Gweinidog Iechyd ar y pryd i gyhoeddi y byddai’r Byrddau Iechyd Lleol yn cael eu dileu yn ein cyfnodolyn, Iechyd Meddwl Cymru. Os oes pryderon gennym am y lefelau gwahanol o fiwrocratiaeth a’r llywodraethiant yn GIG Cymru heddiw, byddai’r sefyllfa dipyn yn waeth pe nai bai’r drefn honno wedi ei diwygio.
Rydym yn medru ac yn gorfod dylanwadu ar y materion yma.
Dadansoddiad o “Cymru Iachach”
Beth yw’r cefndir
Roedd Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Adolygiad Seneddol o Ddyfodol Hirdymor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cymru Iachach yw ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adolygiad hynny.
Mae’n amlinellu cynllun ar gyfer gwella’r integreiddio rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol; mae hefyd yn ceisio symud ffocws y gwasanaethau tuag at ataliaeth, er ei fod ar yr un pryd yn atgyfnerthu athroniaeth “gofal iechyd darbodus” sydd yn ffocysu ar ofalu am y rhai hynny sydd â’r anghenion iechyd mwyaf yn gyntaf ac ymatal rhag gwneud mwy nag sydd angen.
Mae Cronfa Trawsnewid gwerth £100 miliwn wedi ei chreu gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi’r broses o weithredu’r cynllun.
Egwyddorion Allweddol
Mae’r adroddiad yn cynnig “Nod Pedwarplyg” sydd yn cynnwys:
- Gwella iechyd a llesiant y boblogaeth
- Gwella ansawdd a hygyrchedd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
- Cynyddu’r gwerth a gyflawnir gan iechyd a gofal cymdeithasol
- Gweithlu iechyd a chymdeithasol brwd a chynaliadwy
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi deg “egwyddor dylunio”:
- Diogelwch
- Di-dor
- Gwerth uwch
- Yn seiliedig ar dystiolaeth
- Datblygu
- Trawsnewid
- Atal ac ymyrraeth gynnar
- Annibyniaeth
- Llais
- Wedi’i bersonoli
Sut y bydd yn cael ei ddarparu
Nid oes cynnig i ddiwygio seilwaith gyfredol y mudiadau statudol sydd yn gyfrifol, yn gyfreithiol, am iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, sydd yn cynnwys:
- 7 Bwrdd Iechyd Lleol GIG
- 22 Awdurdod Lleol
Ond mae strwythurau eraill wedi neu’n mynd i gael eu datblygu er mwyn gweithredu’r cynllun:
- Swyddogaeth Gweithrediaeth GIG Cymru: rheolaeth GIG sy’n gryfach ac sydd yn atebol i Brif Weithredwr GIG Cymru.
- Bwrdd Trawsnewid Cenedlaethol: uwch arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol a phartneriaid a budd-ddeiliaid allweddol eraill
- 64 “Clwstwr”: chwe deg pedwar grŵp o feddygfeydd teulu cymodol a mudiadau partner ar draws Cymru sydd yn darparu gwasanaethau i boblogaethau lleol rhwng 30,000 a 50,000 o bobl
- 7 Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol: partneriaethau statudol rhwng llywodraeth leol, y trydydd sector a’r GIG. Y pwrpas yw gyrru’r broses o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol ar lefel ranbarthol yn strategol, a hynny mewn cydweithrediad agos ag iechyd.
Bydd y broses o weithredu hyn yn cael ei gefnogi gan:
- Rhaglen Drawsnewid, sydd yn cael ei harwain gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gyda chynlluniau cyfatebol ar lefel RPB
- Rhaglen dechnolegol/ddigidol sydd yn arwain at greu adnodd data cenedlaethol sydd yn caniatáu’r broses o rannu gwybodaeth ar raddfa eang mewn modd diogel a phriodol
- Ystod o Ddatganiadau Ansawdd sydd yn amlinellu’r canlyniadau a’r safonau mewn gwasanaethau GIG
- Gweithredu Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol sengl ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, sydd yn cyd-fynd â’r Nod Pedwarplyg
- Adolygiad o’r Strwythurau Cyllidosydd yn arwain at dargedu adnoddau yn well
- Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru sydd yn newydd– mae hyn mewn ymateb i amcan 4 o’r Amcan Pedwarplyg.
Pa fath o wahaniaeth y bydd Cymru Iachach yn ei wneud?
Yn rhan annatod o’r manylion sydd wedi eu disgrifio uchod, mae’n amlwg fod Cymru Iachach yn ddatganiad o “dim newid” mewn termau strategol. Yn benodol:
- Dim newid o ran strwythur a llywodraethiant y GIG ac Awdurdodau Lleol o ran eu swyddogaethau gofal cymdeithasol – ac eithrio’r haen ychwanegol o fiwrocratiaeth sydd yn ceisio annog cynnydd
- Dim newid o ran y weledigaeth– nid yw’r Amcan Pedwarplyg a’r egwyddorion dylunio yn rhywbeth na fyddai unrhyw wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol modern yn barod i’w gweithredu
- Dim newid o ran y dulliau sylfaenol – mae’r “system iachusrwydd” yn ail-ddatgan nod sylfaenol y GIG i greu poblogaeth iach, a lleihau’r galw am ofal iechyd lefel uwch
- Dim newid o ran atebolrwydd– mae hyn yn parhau gyda’r Byrddau Iechyd (sydd yn adrodd i’r Gweinidog) a’r Cynghorau ar gyfer gofal cymdeithasol
Ac yn fwy na dim:
- Dim newid o ran rôl oddefol y cwsmeriaid – sydd yn golygu nad oes rôl ffurfiol ganddynt o ran dewis eu triniaeth a’u gofal a phwy sydd yn eu darparu (ac eithrio cyfleoedd cyfredol cyfyngedig mewn gofal cymdeithasol).
Ein Barn Ni
Wrth gwrs, nid yw’n gamgymeriad o reidrwydd i ymatal rhag newid cyfeiriad.
Mae’n feirniadaeth gyson o lywodraethau eu bod yn newid strwythurau a strategaethau yn rhy gyson, yn hytrach na’n canolbwyntio ar sicrhau bod pob dim yn gywir o dan y drefn bresennol – er mai darparwyr y gwasanaethau – ac nid y cwsmeriaid – sydd yn cynnig y fath feirniadaeth fel arfer.
Mae’n bwysig fod cwsmeriaid a’u cynrychiolwyr yn sylweddoli beth yn union yw’r cyhoeddiadau yma. Nid oes dim byd o reidrwydd yn gamarweiniol am Cymru Iachach ond nid yw’n cynnig llawer o bethau sydd yn newydd; yn sicr, mae’n methu’r prawf os ydych yn ystyried yr hyn sydd yn medru newid i gwsmeriaid unigol yn hytrach na’r darparwyr gwasanaeth.
Mae Cymru Iachach yn enghraifft o bolisi sydd wedi ei lunio ar gyfer darparwyr gan ddarparwyr; mae hyd yn oed yn dathlu hyn, gan ddisgrifio’r syniadau fel “chwyldro o’r tu mewn”; ac mae’n disgwyl i’r sawl sydd yn gweithio o fewn y maes i arwain y ffordd i ganfod ffyrdd newydd o ddarparu’r gwasanaeth – nid yw hyn yn syniad gwael ond nid yw’n disodli’r angen i wrando ar gwsmeriaid, ac yn sicr, nid yw’n “chwyldro”.
Rydym yn credu fod un llywodraeth ar ôl y llall yng Nghymru wedi dibynnu yn ormodol ar farn y darparwyr, yn methu gweld tu hwnt yr hyn sydd yn gyrru rheolwyr gweithredol ac anweithredol a’r grŵp staff ehangach (a’u mudiadau cynrychioliadol perthnasol – Conffederasiwn y GIG a’r Undebau Llafur).
Roedd dileu’r Byrddau Iechyd Lleol yn cael ei gydnabod fel penderfyniad gan Weinidog penderfynol nad oes yn rhy barod i dderbyn darparwyr gwasanaeth. Dylid parchu barn y darparwyr ond dyma un persbectif yn unig a dylai gael ei ystyried ar ôl ystyried barn y cwsmeriaid.
Rydym hefyd yn pryderi fod polisi wedi ei ddylanwadu’r ormodol gan yr awydd i wahaniaethu o’r hyn sydd yn digwydd yn Lloegr, yn hytrach na cheisio dysgu o’u methiannau a’r llwyddiannau – a gan wledydd eraill. Mae maint Cymru yn golygu bod cyfle i wneud pethau yn wahanol mewn modd ymarferol, heb lynu at athroniaeth.
Yn fwy na dim, mae un llywodraeth ar ôl y llall wedi gwrando weithiau ar gwsmeriaid ond nid ydynt wedi gweithredu ar yr hyn y maent wedi ei glywed. Nid yw’r polisïau a’r gwasanaethau sydd yn cael eu darparu yn cael eu gyrru drwy roi’r ystyriaeth bennaf i gwsmeriaid unigol.
Camau Nesaf
Gan nad oes unrhyw gynllun sylweddol newydd ar waith gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, bydd Hafal yn parhau i ymgysylltu gyda llywodraeth y Prif Weinidog newydd (y peth agosaf yng Nghymru i Lywodraeth newydd) er mwyn hyrwyddo bod iechyd a gofal cymdeithasol yn ffocysu ar gwsmeriaid. Byddwn hefyd yn ymateb i unrhyw gyhoeddiadau sydd yn ymwneud â pholisïau newydd sylweddol.
Gwyliwch y gofod hwn…