Mae Hafal yn dibynnu ar wirfoddolwyr i ddarparu ei wasanaethau lleol, gyda dros 100 o wirfoddolwyr yn gweithio ar brosiectau ledled Cymru ar hyn o bryd. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r prosiect Hafal lleol.
Cyflwyniad a hyfforddiant
Yn Hafal, rydyn ni’n awyddus bod ein staff wedi eu hyfforddi’n llawn, a’u bod yn cael cyfleoedd parhaus i ddatblygu ymhellach.
Mae staff newydd yn cymryd rhan yn ein rhaglenni hyfforddi cychwynnol dwys. Mae hyn yn rhoi sylfaen trylwyr yn yr arferion a’r polisïau sy’n ymwneud ag afiechyd meddwl difrifol yng Nghymru.
Mae gan bob un sy’n gweithio i Hafal ‘Gofnod Dysgu Unigol’ sy’n cofnodi eu hyfforddiant a’u datblygiad yn barhaus. Caiff hwn ei drafod a’i ddiweddaru gyda goruchwylwyr yn rheolaidd. Bydd darparwyr gwasanaethau yn derbyn hyfforddiant Grymuso yn aml er mwyn iddynt allu darparu gwasanaeth Hafal â’i ganolbwynt ar gleientiaid, i’r safon uchaf.
Bob tri mis, mae Hafal yn cynnal diwrnodau hyfforddi i’r holl staff yn Llandrindod. Yn ogystal â rhoi cyfle i gydweithwyr ac Ymddiriedolwyr ar draws Cymru gyfarfod, mae’r diwrnod hefyd yn annog pawb i rannu syniadau a barn ynghylch rhedeg Hafal. Cynhelir gweithdai a seminarau ar ystod o bynciau drwy’r dydd, gan orffen â thasg grŵp.
Ethos Hafal
Mae Hafal yn ymroddedig i wrthwynebu’n egniol bob ffurf ar wahaniaethu. Cymerwn gamau pendant i weithredu polisïau ac arferion sy’n gwrthwynebu gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol ar sail hil, cenedl, rhywioldeb, anabledd, oed, gwreiddiau ethnig, cenedligrwydd, ymrwymiad i ddibynyddion, crefydd, statws priodasol neu gred wleidyddol. Rydyn ni hefyd yn ymroddedig i gyflogi pobl â phrofiad uniongyrchol o afiechyd meddwl.