Mae “Y Genhedlaeth Goll?” yn brosiect sy’n cael ei arwain gan y Grŵp Cydweithredol Anghenion Uchel sydd yn anelu i amlygu profiadau a blaenoriaethau pobl hyn ag afiechydon meddwl difrifol megis sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol. Mae’r prosiectau yn cael eu cefnogi gan yr elusennau iechyd meddwl Hafal, BipolarUK, Diverse Cymru a Crossroads Care Gorllewin a Chanolbarth Cymru.
Yn 2016, roeddem wedi lansio ymgynghoriad fel rhan o “Y Genhedlaeth Goll?” er mwyn gwrando ar farn pobl hŷn ag afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr am y gwasanaethau y maent yn derbyn. Roedd yr arolwg wedi gofyn i bobl i ystyried y problemau penodol sydd yn effeithio ar bobl hŷn ag afiechyd meddwl difrifol ac yn gwahodd awgrymiadau ar ba gymorth sydd angen arnynt i fynd i’r afael â hwy.
Roeddem wedi dod ar draws grŵp o bobl sydd yn aml yn unig ac yn teimlo eu bod wedi eu hynysu – a’n teimlo hefyd nad ydynt yn cael eu cefnogi. Roeddynt wedi dweud wrthym nad ydynt yn derbyn digon o help gyda thriniaethau ar gyfer eu hafiechyd meddwl, hyd yn oed ar ôl y blynyddoedd yma.
Ond roedd pobl hefyd wedi cynnig syniadau da am y cymorth sydd angen arnynt er mwyn gwella eu bywydau.
Darllenwch adroddiad ar ganfyddiadau’r ymgynghoriad
Am fwy o wybodaeth, ewch i ddarllen papur trafod “Y Genhedlaeth Goll?”, sydd yn gwyntyllu cefndir a sgôp y prosiect.