Mae defnyddio profiadau defnyddwyr gwasanaeth Hafal yn allweddol i’n gwaith polisi. Mae grŵp o bobl ifanc gennym sydd yn rhannu eu straeon personol, a hynny mewn digwyddiadau, yn y cyfryngau ac ar lefel lywodraethol. Os hoffech chwarae rhan yn y grŵp hwn, e-bostiwch hafal@hafal.org
Yr Adroddiad Gwneud Synnwyr
Yn Ionawr 2016, roedd y Grŵp Cydweithredol Anghenion Uchel (Hafal, y Sefydliad Iechyd Meddwl, Bipolar UK a Diverse Cymru) wedi cyhoeddi adroddiad mewn partneriaeth ag Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc, sydd yn awgrymu ffyrdd i wella Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Blant a Phobl Ifanc CAMHS) yng Nghymru.
Mae’r adroddiad, sy’n dwyn y teitl ‘Gwneud Synnwyr’, yn asesu canfyddiadau ymgynghoriad a gynhaliwyd gan y bartneriaeth yn hydref 2015. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys mwy na 500 o bobl, gan gynnwys defnyddwyr CAMHS, gofalwyr y bobl hynny sy’n defnyddio CAMHS a phobl ifanc o dan 25.

Cynrychiolwyr Hafal, Mair Elliott a Jake Roberts, gyda’r adroddiad ar ôl ei gyflwyno i adolygiad Llywodraeth Cymru o CAMHS.
Roedd Mair Elliott a Jake Roberts wedi cyfrannu at y broses o lunio’r adroddiad; mae’r ddau yn gynrychiolwyr Hafal sydd â phrofiad o CAMHS. Mae’r adroddiad yn cynnig deg argymhelliad i wella gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru, a hynny’n seiliedig ar ganfyddiadau’r ymgynghoriad.

Pobl ifanc Hafal gyda chynrychiolwyr o Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc. Roedd y bartneriaeth wedi cynnal dau ‘ddigwyddiad rhannu gwybodaeth’ ym mhrifysgolion Abertawe a Bangor cyn cyhoeddi’r adroddiad ‘Gwneud Synnwyr’.
Pan ofynnwyd i ddefnyddwyr CAMHS ynghylch pwy y byddent yn ffafrio mynd ato am help, roedd 56 y cant yn ffafrio ffrindiau, 44 y cant yn ffafrio gwasanaethau cwnsela-addysgol a 39 y cant yn ffafrio athrawon. Dywedodd tri chwarter o’r bobl eu bod wedi cael profiad negatif o CAMHS.
Mae’r adroddiad yn argymell bod athrawon a gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion yn gorfod chware rôl sylweddol wrth gynorthwyo lles a datblygiad pob un plentyn a pherson ifanc, gan gynnwys y rhai hynny sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae’n awgrymu bod gwasanaethau arbenigol CAMHS ond yn cael eu cynnig i bobl ifanc sydd â’r anghenion uchaf.
Mae’r argymhellion fel a ganlyn:
- 1. Ehangu a/neu creu cymorth safon uchel sy’n cael ei ddarparu gan weithwyr proffesiynol na sy’n gweithio ym maes iechyd meddwl
- 2. Osgoi meidcaleiddio’r profiad o dyfu fyny
- 3. Diwygio system atgyfeirio CAMHS
- 4. Cyflwyno deallusrwydd emosiynol a mecanweithiau ymdopi iachus fel rhan o’r cwricwlwm
- 5. Cyflwyno amserlen absoliwt o ran atgyfeirio
- 6. Adolygu arferion o fewn CAMHS
- 7. Aildrefnu’r cyfnod pontio i wasanaethau oedolion
- 8. Gwella’r broses o gasglu data ac atebolrwydd
- 9. Cefnogi gofalwyr
- 10. Gwrando ar bobl ifanc
Roedd Mair a Jake wedi trafod argymhellion yr adroddiad gyda’r Comisiynydd Plant i Gymru yn Nhachwedd 2015, ac wedi cyflwyno eu canfyddiadau terfynol i adolygiad Llywodraeth Cymru o CAMHS, sef y ‘Rhaglen Gyda’n Gilydd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc’ yn Ionawr 2016.
Rhagor o wybodaeth:
Cliciwch yma i weld adroddiad llawn ‘Gwneud Synnwyr’.
Cliciwch yma i weld y data crai o’n hymgynghoriad.
Gwneud Synnwyr – cam nesaf
Wedi cyhoeddi’r adroddiad ‘Gwneud Synnwyr’ yn Ionawr 2016, gwahoddwyd Mair a Jake i gynnal deialog bellach gyda Bwrdd Rhaglen T4CYP yn ystod yr adolygiad. Roedd T4CYP wedi darparu ymateb ysgrifenedig (ar gael yma) i’r adroddiad Gwneud Synnwyr ym Mehefin 2016, ac roedd y grŵp cydweithredol Gwneud Synnwyr wedi ymateb hefyd (ar gael yma) gan amlinellu’r meysydd hynny i’w datblygu.

Mair ar ôl cyflwyno’r adroddiad Gwneud Synnwyr yng nghynhadledd T4CYP.
Roedd y rhain yn cynnwys: gwella’r defnydd o Gynlluniau Gofal a Chymorth (a’r manteision o wneud hyn); gweithredu’r meini prawf o ran atgyfeirio a darparu cymorth ymarferol i ofalwyr.
Roedd Mair, a Swyddog Cyfathrebu Pobl Ifanc Hafal, Mike Wood, wedi cyflwyno’r adroddiad yng Nghynhadledd T4CYP yn haf 2016. Roedd yr Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Iechyd, Lles a Chwaraeon, wedi cyfeirio at yr adroddiad yn ystod ei anerchiad yn y gynhadledd, gan amlygu ei reoli yn natblygiad polisi sy’n dylanwadu ar wasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc yng Nghymru.
Mae Mair wedi ei chydnabod am ei gwaith ymgyrchu i wella gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mewn seremoni wobrwyo yng Ngogledd Cymru, enillodd wobr ‘Gwneud Gwahaniaeth’ Llywodraeth Cymru. Gwyliwch ein fideo o’r enwebiad yma:
Y swyddog o fewn Hafal sy’n arwain ar ‘Gwneud Synnwyr’ yw’r Swyddog Cyfathrebu i Bobl Ifanc, Mike Wood. Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth am ein gwaith, cysylltwch gyda ni drwy e-bostio Matt Pearce