Am help mewn argyfwng, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda CALL ar y rhadffôn 0800 132 737 / danfonwch ‘help’ i 81066 neu ffoniwch y Samariaid ar 116 123.
- Os yw aelod o’ch teulu mewn peryg o niweidio ei hun neu eraill, yna rydych yn medru cysylltu gyda’r gwasanaethau argyfwng ar 999.
- Mewn argyfwng, rydych hefyd yn medru mynd â’ch perthynas i’r adran damweiniau brys yn eich ysbyty lleol.
- Rydych yn medru mynd â’ch aelod teulu i weld y Meddyg Teulu. Efallai na fydd y meddyg yn medru cynnig help uniongyrchol, ond bydd y meddyg yn medru cysylltu gyda thimau eraill fel y tîm argyfwng. Mae’r rhan fwyaf o Feddygon Teulu yn cynnig rhif ffôn 24 awr y mae modd i chi ei ffonio.
- Mae timau argyfwng yn rhan o wasanaethau iechyd meddwl. Maent yn medru cefnogi pobl sydd yn profi argyfwng iechyd meddwl yn y gymuned (er enghraifft yn eu cartrefi). Dylai tîm argyfwng fod ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ym mhob ardal hefyd.
- Mae timau iechyd meddwl cymunedol (TIMC) yn cefnogi pobl yn y gymuned sydd â phroblemau iechyd meddwl. Maent ond ar gael fel arfer yn ystod oriau swyddfa ar ddiwrnodau gwaith (Llun-Gwener). Efallai bod eich perthynas eisoes mewn cysylltiad gyda TIMC. Os felly, efallai bod cydlynydd gofal ganddynt y mae modd cysylltu â hwy os ydy’r argyfwng yn datblygu yn ystod oriau swyddfa. Os nad yw’r person hwn ar gael, gofynnwch i siarad gyda’r gweithiwr ar ddyletswydd.