Mae Hafal yn ymrwymo i barchu cyfrinachedd pawb sydd yn ein cefnogi ni, neu sydd yn dod atom am gymorth. Rydym am i chi deall sut ydym yn defnyddio ac yn diogelu’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi i ni, yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei broses mewn modd teg, agored a thryloyw. Mae Hafal yn credu bod eich preifatrwydd yn bwysig ac rydym yn cydymffurfio yn llawn gyda 2018 Deddf Diogelu Data y DU a rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yr Undeb Ewropeaidd (GDPR).
Pa wybodaeth ydym yn prosesu a sut ydym yn defnyddio’r wybodaeth hon?
Gwybodaeth Bersonol
Mae’r wybodaeth bersonol yr ydym yn casglu yn cynnwys manylion megis eich enw, dyddiad geni, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post, rhif ffôn a manylion cerdyn credyd/debyd (os ydych yn prynu aelodaeth neu rodd) ynghyd ag unrhyw wybodaeth yr ydych yn darparu wrth gyfathrebu gyda ni. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hyn yn bennaf er mwyn:
- Prosesu atgyfeiriad i wasanaethau Hafal
- Darparu gwasanaethau ar gais i gleientiaid a gofalwyr Hafal
- Cynnal ymchwil er mwyn ein helpu ni gynllunio a gwella gwasanaethau
- Darparu gwybodaeth ystadegol i’w gyhoeddi
- Rheoli ein swyddogaethau personél (staff cyflogedig a gwirfoddolwyr)
- Darparu aelodaeth, ar gais
- Prosesu eich rhoddion neu unrhyw daliadau eraill
- At ddibenion cyhoeddi, lle rhoddwyd caniatâd.
Wrth ofyn am eich gwybodaeth bersonol, byddwn yn:
- Esbonio i chi pam ein bod angen y wybodaeth;
- Gofyn am y wybodaeth sydd ei hangen un unig ac ni fyddwn yn casglu gwybodaeth ormodol neu amherthnasol;
- Sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei gadw’n ddiogel ac ond yn hygyrch i’r sawl sydd ei hangen;
- Rhoi gwybod i chi os byddwn ni angen ei rhannu gyda mudiadau eraill er mwyn darparu’r gwasanaethau i chi;
- Cadw’r wybodaeth am gyn hired ag sydd angen;
- Sicrhau ei fod yn gywir a’n gyfredol
Gwybodaeth Bersonol Sensitif
Mae GDPR yn cydnabod fod rhai categorïau o wybodaeth bersonol yn fwy sensitif. Mae Gwybodaeth Bersonol Sensitif yn medru cynnwys gwybodaeth am iechyd, hil, tarddiad ethnig, barn wleidyddol, bywyd rhyw, cyfeiriadedd rhywiol neu gredoau gwleidyddol.
Byddwn ond yn defnyddio’r wybodaeth hon:
- Ar gyfer delio gyda’ch ymholiad a monitro ansawdd neu werthuso’r gwasanaethau yr ydym yn darparu;
- Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall heb eich caniatâd penodol ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
- Pan fyddwch wedi rhoi caniatâd penodol i ni eich bod yn hapus i ni rannu eich stori drwy gyfrwng ein cyhoeddiadau
Os ydych yn rhannu unrhyw Wybodaeth Bersonol Sensitif gyda ni dros y ffôn, e-bost neu unrhyw gyfrwng arall, byddwn yn delio â’r fath wybodaeth gyda gofal a chyfrinachedd ychwanegol ac yn unol bob tro gyda’r Hysbysiad Preifatrwydd.
Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
Mewn rhai achosion, byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol pan fyddwn wedi derbyn eich caniatâd neu os ydym angen ei ddefnyddio er mwyn cwblhau cytundeb gyda chi (er enghraifft, gan eich bod wedi gwneud cais am wybodaeth).
Fodd bynnag, mae yna resymau cyfreithiol eraill sydd yn ein caniatáu ni brosesu eich gwybodaeth bersonol ac mae un o’r rhain yn cael ei alw’n ‘fudd cyhoeddus’. Mae hyn yn golygu ein bod yn prosesu’r wybodaeth gan fod yna fudd cyhoeddus i Hafal i brosesu eich gwybodaeth er mwyn ein helpu ni ddarparu ystod o wasanaethau i bobl sydd yn dioddef afiechyd meddwl difrifol, salwch neu anabledd, ynghyd â’u teuluoedd a’u gofalwyr.
Pwy sydd yn derbyn eich gwybodaeth?
Ni fyddwn byth yn gwerthu neu’n rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda mudiadau at ddibenion marchnata. Bydd Hafal ond yn rhannu eich gwybodaeth bersonol pan fydd yna reswm teilwng ac angenrheidiol i wneud hyn. At hyn, efallai y byddwn yn ymgysylltu â gweithgareddau gyda Chontractwyr y mudiad er mwyn darparu gwasanaethau a swyddogaethau penodol.
Datgeliad Cyfreithiol
Efallai y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth os oes angen i ni wneud hyn yn gyfreithiol.
Datgelu a Diogelu eich Gwybodaeth
Rydym yn meddu ar agwedd ddifrifol pan yn gofalu am eich gwybodaeth. Bydd ychydig o’r wybodaeth yr ydych yn darparu i Hafal yn cael ei ddal ar ein cyfrifiaduron a dim ond ein staff cymeradwy fydd yn derbyn neu’n medru cael gafael ar y wybodaeth.
Mae mesurau gweinyddol, technegol a chorfforol yn eu lle yn fewnol er mwyn diogelu yn erbyn, a lleihau’r risg o golli, camddefnyddio neu brosesu neu ddatgelu heb awdurdod, y wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch.
Am ba mor hir fyddwn ni’n cadw eich gwybodaeth?
Byddwn ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol am gyfnod sydd yn rhesymol ac angenrheidiol ar gyfer y gweithgaredd perthnasol, ac yn unol ag unrhyw oblygiadau cyfreithiol.
Beth yw eich hawliau?
Mae hawliau amrywiol gennych o ran eich gwybodaeth bersonol, er na fydd yr hawliau yma yn berthnasol ym mhob achos neu’n berthnasol i’r holl wybodaeth sydd gennym amdanoch. Byddwn yn dweud wrthych os yw hyn yn briodol pan fyddwch yn cysylltu gyda ni er mwyn arfer unrhyw un o’r hawliau yma.
Mae hawl gennych i wneud cais ein bod yn:
- Darparu copi i chi o’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch, ynghyd ag unrhyw wybodaeth yr ydym yn defnyddio, pam ein bod yn ei ddefnyddio, y bobl yr ydym yn rhannu eich gwybodaeth gyda hwy, pa mor hir fyddwn ni’n medru cadw’r wybodaeth ac os ydym wedi ei ddefnyddio ar gyfer gwneud penderfyniadau’n awtomatig.
- Diweddaru eich gwybodaeth bersonol os nad yw’n gywir neu’n gyfredol;
- Dileu gwybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch os nad yw’n angenrheidiol i ni ei ddefnyddio, neu os nad oes sail gyfreithiol gennym i’w gadw;
- Cyfyngu’r ffordd yr ydym yn prosesu eich gwybodaeth pan eich bod wedi gofyn i ni ei dileu neu os ydych wedi gwrthwynebu ein bod yn ei ddefnyddio;
- Ystyried unrhyw rwystredigaethau dilys tuag at brosesu eich gwybodaeth bersonol. Cysylltwch gyda ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod, yn nodi manylion eich gwrthwynebiad.
- Darparu chi neu’r trydydd parti gyda rhai o’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch mewn ffurflen strwythuredig gyffredin, electronig, fel bod modd ei drosglwyddo’n hawdd
- Sicrhau nad ydym yn gwneud unrhyw benderfyniadau yn awtomatig a fydd yn creu effeithiau cyfreithiol neu’n meddu ar sgil-effaith sylweddol tebyg oni bai eich bod wedi rhoi eich caniatâd i ni. Mae hawliau penodol gennych hefyd i herio unrhyw benderfyniadau a wneir amdanoch. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwneud unrhyw benderfyniadau yn awtomatig.
Byddwn yn ymateb i’ch cais o fewn y cyfnod amser statudol perthnasol. Os nad ydym yn siŵr o bwy ydych, efallai y byddwn yn gofyn am wybodaeth bellach er mwyn cadarnhau pwy ydych.
Ymwelwyr â’n gwefan, defnyddwyr ein gwasanaethau digidol a chyfryngau cymdeithasol
- Cwcis a Hafal.org
Rydym yn defnyddio cwcis (ffeiliau testun bychain sydd yn cael eu storio ar eich cyfrifiadur) er mwyn sicrhau eich bod yn elwa o’r mwyaf o’n gwefan. Mae mwy o wybodaeth am gwcis i’w ganfod yma – www.aboutcookies.org neu ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae manylion y cwcis yr ydym yn defnyddio i’w gweld isod:
- System Rheoli Cynnwys
Mae’r system yr ydym yn defnyddio er mwyn creu tudalennau gwe yn ddibynnol ar gwcis i weithio. Nid yw’r cwcis yma yn storio unrhyw ddata personol ond yn hwyluso’r modd y mae ein gwefan yn gweithio. Hebddynt, ni allai’r safle weithio.
- Mesur ein hymwelwyr
Rydym yn defnyddio system o’r enw Google Analytics er mwyn ceisio deall faint o ymwelwyr sydd yn symud drwy ein gwefan. Mae’r system yn defnyddio cwcis er mwyn cofnodi pa dudalennau y mae ymwelwyr yn eu darllen a phryd.
Nid oes unrhyw wybodaeth bersonol wedi ei hatodi i’r cwcis yma ac nid oes unrhyw ffordd i ni geisio canfod pwy yn union yw’r ymwelwyr unigol.
Mae hyn yn ein caniatáu ni weld sut y mae’r ymwelwyr yn mynd drwy’r wefan ac yn nodi’r hyn y maent yn defnyddio amlaf. Mae hyn yn ein helpu ni greu cynnwys sydd o ddiddordeb i chi.
- Facebook a chwcis trydydd parti eraill
Mae gwasanaethau megis Facebook yn rhoi’r gallu i ni osod dolenni ‘Hoffi’ neu bethau tebyg ar ein tudalennau. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn defnyddio cod o’r gwasanaeth ac yn gosod hyn ar ein gwefan. Noder: nid oes unrhyw reolaeth gennym dros y cod hwn.
Mae’n bosib i’r cod yma storio cwcis amdanoch chi a’r hyn yr ydych yn chwilio amdano. Nid ydym yn medru cael mynediad at y wybodaeth hon, ac nid oes unrhyw gytundeb gennym gyda’r gwasanaeth er mwyn pennu sut y maent yn ei ddefnyddio.
Os ydych yn pryderi ynghylch pa ddata y mae’r gwasanaethau yma yn casglu amdanoch a sut y mae’n cael ei ddefnyddio, rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu gyda hwy neu’n darllen amodau a thelerau eu gwasanaeth.
Sut i gysylltu gyda ni:
Os hoffech gysylltu gyda ni er mwyn trafod yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, sut ydym yn defnyddio eich gwybodaeth neu i arfer unrhyw hawliau, cysylltwch gyda ni os gwelwch yn dda drwy gyfrwng y manylion canlynol:
Ar E-bost: dataprotection@hafal.org
Ar y Ffôn: 01792 816600
Yn y Post: Hafal, Uned B3, Parc Technoleg Lakeside, Parc Mentergarwch, Abertawe SA7 9FE
Sut i wneud cwyn:
Os ydych yn anhapus ynglŷn â’r modd y mae eich data personol yn cael ei brosesu, rydych yn medru cysylltu gyda ni yn gyntaf gan ddefnyddio’r manylion sydd wedi eu darparu.
Os ydych dal yn anhapus gyda chanlyniad eich cwyn, yna mae’r hawl gennych i gyfeirio eich cwyn ar y Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Mae modd cysylltu gyda’r Comisiynydd Gwybodaeth yn y ffyrdd canlynol:
Ar e-bost: wales@ico.org.uk
Ar y Ffôn: 02920 678400
Yn y Post: 2ail Law, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH