Canllaw Newid Cam i gefnogi cyn-filwyr hŷn yng Nghymru
Mae ein canllaw yn berffaith ar gyfer cyn-filwyr hŷn sydd yn byw yng Nghymru, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’n cynnig gwybodaeth i chi am y materion mwyaf cyffredin sydd yn effeithio ar les cyn-filwyr hŷn yn ogystal â rhai ffynonellau gwych o wybodaeth.
Pam ddylem ddarllen y canllaw hwn?
Efallai eich bod yn teimlo nad oes neb yno i chi siarad gyda hwy, neu’ch bod yn pryderi am berthynas neu rywun yr ydych yn gofalu amdano sydd yn gyn-filwr hŷn? Mae ein canllaw yn darparu gwybodaeth hanfodol a dolenni i fudiadau sydd yn medru darparu’r cymorth sydd angen arnoch.
Lawrlwythwch y canllaw yma
Cliciwch yma er mwyn lawrlwytho ein canllaw.
Gofyn am gopi argraffedig
Os hoffech dderbyn copi argraffedig o’r canllaw, ffoniwch Newid Cam ar 0300 777 2259, neu gofynnwch i rywun yr ydych yn adnabod o un o’r mudiadau i gyn-filwyr.
Mwy o wybodaeth
Mae modd i chi ganfod mwy am Newid Cam a’n prosiect sydd wedi ymrwymo i anghenion cyn-filwyr hŷn, drwy glicio yma.
Rhannwch eich barn gyda ni
Cysylltwch gyda ni, neu mae modd cysylltu gyda ni drwy Facebook neu Twitter, er mwyn rhoi gwybod i ni sut y mae’r canllaw wedi eich helpu chi!
Wedi ei gefnogi gan Gronfa Cyn-filwyr Hŷn y Lleng Brydeinig Frenhinol, a’i ariannu gan y Canghellor yn defnyddio cronfeydd LIBOR