Partneriaid Addewid Hafal

A all eich busnes chi ddod yn Bartner Addewid Hafal a newid bywyd rhywun yn eich cymuned?

Mae pawb angen ychydig o gefnogaeth a chymorth o dro i dro. Mae Addewid Hafal yn golygu na fydd neb yng Nghymru yn wynebu problemau iechyd meddwl ar ben eu hunain.

Rydym yn cynnig cyswllt parhaus, cyfeillgar i unrhyw un sydd yn cael trafferthion gyda’u hiechyd meddwl, ar y ffôn, ar-lein neu mewn person.

A ydych chi yn medru helpu rhywun yn eich cymuned heddiw?

Dewch yn Bartner Addewid ac ymrwymwch eich tîm neu’ch busnes i gasglu  £1000 dros y flwyddyn nesaf. Byddwch yn sicrhau bod rhywun sydd yn teimlo’n unig yn medru troi at rywun a’n derbyn yr help sydd angen arnynt.

Yn sgil hyn, byddwch ‘chithau – yn ogystal â theimlo’n wych am eich bod wedi helpu newid bywyd rhywun er gwell – hefyd yn derbyn:

  • Help a chefnogaeth er mwyn cwrdd â’ch targed codi arian
  • Yn cael eich cynnwys ar ein tudalen gwe ar gyfer ein Partneriaid Addewid
  • Y newyddion a’r diweddariadau am ein gwaith, a gwybodaeth am ein holl Bartneriaid Addewid
  • Logo a throedyn e-bost er mwyn hyrwyddo eich cefnogaeth at Hafal

Am fwy o wybodaeth am ddod yn Bartner Addewid, neu am ffyrdd eraill i’ch busnes fedru cefnogi Hafal, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda karen.ozzati@adferiad.org.uk.