Ewch ati i ddarllen ein blogiau a gwrando ar ein podlediadau diweddaraf sydd yn rhoi cipolwg defnyddiol i chi o’r gwaith yr ydym yn ei wneud…
Mae’r canlynol yn gyflwyniad a roddwyd gan Gadeirydd Hafal, Dr Elin Jones, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, 8fed Mawrth 2018, mewn cynhadledd a drefnwyd gan y Ganolfan ar gyfer Astudiaethau Rhyw ym Mhrifysgol De Cymru, ac Archif Menywod Cymru/Women’s Archive of Wales, er mwyn dathlu canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918, a dathliad o fywyd yr hanesydd Dr Ursula Masson.
Dyma ein ‘vlogger’, Declan, yn ymweld gyda Grant sydd yn ailwampio fan wersylla glasurol Hafal. Mae Grant yn trafod y gwaith sydd wedi ei wneud, y pethau eraill sydd angen eu gwneud a hanes ein Volkswagen Samba ffantastig sydd â21 ffenestr!
Roedd stondin gan Hafal yn yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd rhwng 4ydd a’r 11eg Awst 2018. Yma, mae’r ‘vlogger’ Declan yn cerdded o gwmpas yr arddangosfeydd yn yr Eisteddfod ac yn dangos yr hyn a oedd i’w weld yn ystod wythnos ffantastig!