Mae ystadegau o 2014 yn dangos fod hanner y bobl hynny sydd yn ddibynnol ar gyffuriau yn derbyn triniaeth iechyd meddwl – ac mae oedolion sydd yn ddibynnol ar gyffuriau nawr ddwywaith yn fwy tebygol na’r boblogaeth gyffredinol o fod yn defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl.
Fodd bynnag, gyda’r cymorth a’r driniaeth gywir, mae pobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau neu broblemau iechyd meddwl yn medru cymryd camau positif er mwyn gosod eu bywyd ar y trywydd cywir.
Dyma rai dolenni defnyddiol i fudiadau sydd yn medru eich helpu gyda phroblemau o ran camddefnyddio sylweddau a phroblemau iechyd meddwl ar yr un pryd:
• Mae CAIS yn darparu ystod o wasanaethau i bobl sydd yn gwella o gaethiwed ac yn ail-adeiladu eu bywydau, gan gynnwys triniaeth ac adsefydlu preswyl, cwnsela, mentora cymheiriaid, cefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain, cynorthwyo pobl i ddychwelyd i’r gwaith neu addysg, gwaith grŵp ac ymyriadau ysgogiadol eraill. Mae CAIS hefyd yn cynnig ystod gynhwysfawr o gyrsiau hyfforddi, ynghyd â hyfforddiant a chymorth i gyflogwyr.
Gyda degawdau o brofiad yn helpu pobl i wella o’u caethiwed o gyffuriau ac alcohol, mae CAIS nawr yn cynnig ystod o wasanaethau therapiwtig meddygol a biopsychosocial i bobl sydd â phrofiad o fod yn gaeth i alcohol, cyffuriau, gamblo a chyflyrau ymddygiad eraill yn Hafan Wen, Salus Withnell Hall a Parkland Place.
• Mae Addaction yn darparu cymorth i oedolion a phobl ifanc yn y gymuned, mewn carchardai, mewn canolfannau adsefydlu preswyl a thrwy wasanaethau allymestyn.
• Mae Barod yn cynnig cymorth a chyfarwyddyd am ddim a chyfrinachol i unrhyw un sydd wedi ei effeithio gan y defnydd o gyffuriau neu alcohol, naill ai yn uniongyrchol eu hunain neu drwy eraill; yn codi ymwybyddiaeth o’r ffyrdd yr ydym oll yn medru helpu i leihau’r niwed a achosir gan gamddefnydd sylweddau.
• Mae Kaleidoscope yn darparu ystod o gymorth i bobl sydd â phroblemau cyffuriau ac alcohol ac yn mynd i’r afael gyda stigma sydd yn cael ei wynebu gan bobl sydd yn dioddef problemau cyffuriau, alcohol ac iechyd meddwl.
Am fwy o wybodaeth am y gwasanaethau yn eich ardal chi, ewch os gwelwch yn dda i Dewis Wales.