Gwasanaethau Hafal yn Caerffili ar gyfer cleientiaid a theuluoedd:
- Hyfforddiant ar gyfer Cyflogaeth
- Gwasanaeth Cymorth teulu
- Seibiant ar gyfer Gofalwyr
- Cefnogaeth Gyffredinol
- Gwybodaeth
- Cyngor
- Grŵpiau
- Cyfeillio
- Llais o fewn cynllunio
Mae Hafal Caerffili yn helpu pobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol a’u teuluoedd i weithio tuag at adferiad. Mae pob un o’n gwasanaethau wedi’i gynnal gan Raglen Arferiad Hafal, sy’n galluogi cleientiaid a theuluoedd i reoli’u bywydau ac i adfer.
Mae Rhaglen Wella Hafal yn ymagwedd gyfoes o fynd i’r afael ag afiechyd meddwl.
Fel sefydliad a reolir gan ei aelodau – pobl â phrofiad o afiechyd meddwl difrifol a’u teuluoedd – mae Hafal wedi tynnu ar flynyddoedd lawer o brofiad o fynd i’r afael ag iechyd meddwl difrifol er mwyn gwneud y Rhaglen Wella mor effeithiol ag y bo modd.
Am beth mae’r Rhaglen?
Nid yw Rhaglen Wella Hafal yn ymwneud yn unig â meddyginiaethau neu therapïau eraill sy’n delio’n uniongyrchol â’r symptomau. Gall y rhain fod yn bwysig iawn, ond mae iechyd meddwl wedi ei adeiladu ar sylfeini ehangach o lawer.
I unrhyw unigolyn, efallai mai’r cam mwyaf tuag at wella yw dod o hyd i rywle dda i fyw, cael swydd, sefydlu perthynas dda â’u teulu … fel arfer mae ystod o wahanol bethau sy’n bwysig ar gyfer gwellhad unigolyn.
Dyma le Rhaglen Wella Hafal. Pan mae unigolion yn dioddef o afiechyd meddwl difrifol, mae’r Rhaglen Wella yn cynnig ffordd fwy methodolegol o wella’r holl agweddau ar eu bywyd.
Sut mae’r Rhaglen Wella yn gweithio?
Mae’r Rhaglen Wella yn eich annog i gael ymagwedd “Person Cyfan”, gan edrych ar y rhannau canlynol o’ch bywyd er mwyn symud ymlaen:
Yn y broses, mae’r Rhaglen yn cynnwys holl elfennau gwasanaeth lleol Hafal, gan gynnwys:
- Atgyfeirio
- Cyflwyno
- Cynllunio a gweithredu
- Adolygu
- Rheoli gwasanaethau
- Grymuso ehangach.
Mae’r safleoedd cyflenwi yn cynnwys:
Rhandir Trethomas ar ddydd Mawrth a dydd Gwener. Hafod Deg, Rhymni ar ddydd Llun. Eglwys Fethodistaidd y Coed-duon ar ddydd Gwener. Gwasanaeth allgymorth yn y gymuned ar ddydd Mawrth a dydd Iau.
I gysylltu â Hafal Caerffili:
Michelle Boyd, Arweinydd Practis
Ffôn: 07866 702747
E-bost: michelle.boyd@hafal.org
Larlwythwch ein ffurflen gwybdoaeth lleol
Cefnogir Hafal Caerffili gan:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Bwrdd Iechyd Lleol Caerffili