Mae Hafal Ceredigion yn helpu pobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol a’u teuluoedd i weithio tuag at adferiad. Mae pob un o’n gwasanaethau wedi’i gynnal gan Raglen Arferiad Hafal, sy’n galluogi cleientiaid a theuluoedd i reoli’u bywydau ac i adfer.
Mae Rhaglen Wella Hafal yn ymagwedd gyfoes o fynd i’r afael ag afiechyd meddwl.
Fel sefydliad a reolir gan ei aelodau – pobl â phrofiad o afiechyd meddwl difrifol a’u teuluoedd – mae Hafal wedi tynnu ar flynyddoedd lawer o brofiad o fynd i’r afael ag iechyd meddwl difrifol er mwyn gwneud y Rhaglen Wella mor effeithiol ag y bo modd.
Am beth mae’r Rhaglen?
Nid yw Rhaglen Wella Hafal yn ymwneud yn unig â meddyginiaethau neu therapïau eraill sy’n delio’n uniongyrchol â’r symptomau. Gall y rhain fod yn bwysig iawn, ond mae iechyd meddwl wedi ei adeiladu ar sylfeini ehangach o lawer.
I unrhyw unigolyn, efallai mai’r cam mwyaf tuag at wella yw dod o hyd i rywle dda i fyw, cael swydd, sefydlu perthynas dda â’u teulu … fel arfer mae ystod o wahanol bethau sy’n bwysig ar gyfer gwellhad unigolyn.
Dyma le Rhaglen Wella Hafal. Pan mae unigolion yn dioddef o afiechyd meddwl difrifol, mae’r Rhaglen Wella yn cynnig ffordd fwy methodolegol o wella’r holl agweddau ar eu bywyd.
Sut mae’r Rhaglen Wella yn gweithio?
Mae’r Rhaglen Wella yn eich annog i gael ymagwedd “Person Cyfan”, gan edrych ar y rhannau canlynol o’ch bywyd er mwyn symud ymlaen:
Yn y broses, mae’r Rhaglen yn cynnwys holl elfennau gwasanaeth lleol Hafal, gan gynnwys:
- Atgyfeirio
- Cyflwyno
- Cynllunio a gweithredu
- Adolygu
- Rheoli gwasanaethau
- Grymuso ehangach.
Gwasanaethau Hafal yng Ngheredigion
Cynllun Cyfeillio Cyfarfod
Yn cael ei gynnig ar hyd a lled Ceredigion er mwyn cynnig cefnogaeth i bobl sydd ag afiechyd meddwl hirdymor fel rhan o’u hadferiad.
Cyswllt: Ruth Wilson
Ffôn: 01970 624 756
E-bost: ruth.wilson@hafal.org
Gwasanaeth Tai Anghenion Uchel
Yn cefnogi pobl ag afiechyd meddwl drwy gyfrwng cymorth yn y gymuned, saith diwrnod yr wythnos.
Cyswllt: Wayne Hurley
Ffôn: 01970 624 756
E-bost: wayne.hurley@hafal.org
Clybiau Cymdeithasol Aberystwyth
Yn darparu cefnogaeth i bobl sydd ag afiechyd meddwl parhaus, yn eu hymrymuso i ryngweithio’n gymdeithasol tra hefyd yn darparu cyfleoedd hamdden o fewn y gymuned. Mae gweithgareddau yn cynnwys: gweithdai celf, cerddoriaeth ac ysgrifennu creadigol.
Cyswllt: Ruth Wilson
Ffôn: 01970 624 756
E-bost: ruth.wilson@hafal.org
Hafal Noddfa, Aberaeron
Yn darparu cefnogaeth i bobl sydd yn profi problemau iechyd meddwl yn ardal Aberaeron, ac maent yn medru galw heibio heb wneud apwyntiad. Mae gweithgareddau yn cynnwys: cerddoriaeth, crefftau, posau a hyrwyddo ffordd o fyw iachus.
Cyswllt: Ruth Wilson
Ffôn: 01970 624 756
E-bost: ruth.wilson@hafal.org
Rôl Gweithiwr Cyswllt Gorwelion, Aberystwyth
Yn darparu cefnogaeth, cyngor, gwybodaeth a’n atgyfeirio pobl sydd yn profi afiechyd meddwl, a’u gofalwyr. Mae gweithgareddau yn cynnwys: gweithgareddau gweithdai a’n hyrwyddo lles corfforol.
Cyswllt: Ruth Wilson/Aaron Walters
Ffôn: 01970 624 756
E-bost: ruth.wilson@hafal.org / aaron.walters@hafal.org
Cyswllt: Hafal Ceredigion
9 Portland Road
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2NL
Ffôn: 01970 624 756
E-bost: ceredigion@hafal.org
Larlwythwch ein ffurflen gwybdoaeth lleol
Cefnogir Hafal Ceredigion gan:-
Cyngor Sir Ceredigion
Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion