Gwasanaethau Hafal yn Wrecsam ar gyfer cleientiaid a theuluoedd:

  • Gwasanaeth Cymorth teulu
  • Cymorth Tai
  • Egwyliau Seibiant ar gyfer Gofalwyr
  • Cefnogaeth Gyffredinol
    • Gwybodaeth
    • Cyngor
    • Grŵpiau
    • Cyfeillio
    • Llais o fewn cynllunio

Mae Hafal Wrecsam yn helpu pobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol a’u teuluoedd i weithio tuag at adferiad. Mae pob un o’n gwasanaethau wedi’i gynnal gan Raglen Arferiad Hafal, sy’n galluogi cleientiaid a theuluoedd i reoli’u bywydau ac i adfer.

Mae Rhaglen Wella Hafal yn ymagwedd gyfoes o fynd i’r afael ag afiechyd meddwl.

Fel sefydliad a reolir gan ei aelodau – pobl â phrofiad o afiechyd meddwl difrifol a’u teuluoedd – mae Hafal wedi tynnu ar flynyddoedd lawer o brofiad o fynd i’r afael ag iechyd meddwl difrifol er mwyn gwneud y Rhaglen Wella mor effeithiol ag y bo modd.

Am beth mae’r Rhaglen?

Nid yw Rhaglen Wella Hafal yn ymwneud yn unig â meddyginiaethau neu therapïau eraill sy’n delio’n uniongyrchol â’r symptomau. Gall y rhain fod yn bwysig iawn, ond mae iechyd meddwl wedi ei adeiladu ar sylfeini ehangach o lawer.

I unrhyw unigolyn, efallai mai’r cam mwyaf tuag at wella yw dod o hyd i rywle dda i fyw, cael swydd, sefydlu perthynas dda â’u teulu … fel arfer mae ystod o wahanol bethau sy’n bwysig ar gyfer gwellhad unigolyn.

Dyma le Rhaglen Wella Hafal. Pan mae unigolion yn dioddef o afiechyd meddwl difrifol, mae’r Rhaglen Wella yn cynnig ffordd fwy methodolegol o wella’r holl agweddau ar eu bywyd.

Welsh wholeperson

Sut mae’r Rhaglen Wella yn gweithio?

Mae’r Rhaglen Wella yn eich annog i gael ymagwedd “Person Cyfan”, gan edrych ar y rhannau canlynol o’ch bywyd er mwyn symud ymlaen:

Yn y broses, mae’r Rhaglen yn cynnwys holl elfennau gwasanaeth lleol Hafal, gan gynnwys:

  • Atgyfeirio
  • Cyflwyno
  • Cynllunio a gweithredu
  • Adolygu
  • Rheoli gwasanaethau
  • Grymuso ehangach.

I gysylltu â Hafal Wrecsam:

Karen Edwards, Rheolwr Gwasanaethau
Ty Luke O’Connor,
Cwrt Barter, Barrack Field,
Hightown
WRECSAM LL13 8QT

Ffôn: 01978 310936
e-bost : wrexhamfamilysupport@hafal.org / wots@hafal.org

Larlwythwch ein ffurflen gwybdoaeth lleol