Bydd cymaint ag un ym mhob pedwar person yn profi afiechyd meddwl yn ystod eu bywydau. Tra bod pobl yn profi afiechyd meddwl mewn ffyrdd gwahanol iawn, bydd llawer yn rhannu’r un fath o symptomau a sgil-effeithiau.
Mae Hafal yn gweithio ag unigolion sydd yn gwella o broblemau iechyd meddwl – gyda phwyslais arbennig ar y rhai hynny ag afiechyd meddwl difrifol. Isod, rydym yn darparu gwybodaeth am ddau ddiagnosis: sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol.
Sgitsoffrenia
Mae sgitsoffrenia yn afiechyd meddwl difrifol sydd yn effeithio ar tua 1 ym mhob 100 person yn ystod eu bywydau. Mae sgitsoffrenia yn newid sut y mae’r ymennydd yn gweithio. O ganlyniad, mae prosesau meddwl yn cael eu heffeithio, gan newydd emosiynau, cysyniadau, credoau ac ymddygiad.
Mae dynion a menywod yr un mor debygol â’i gilydd o dderbyn diagnosis o sgitsoffrenia. Mae symptomau yn aml – ond nid pob tro – yn ymddangos yn gyntaf ymhlith oedolion ifanc ac maent yn medru digwydd yn raddol neu’n sydyn. Ymhlith dynion, mae’r profiad cyntaf o sgitsoffrenia yn aml yn dod i’r amlwg pan eu bod yn eu harddegau neu yn eu hugeiniau; ymhlith menywod, mae hyn yn fwy tebygol o ddigwydd pan eu bod yn eu hugeiniau neu’u tridegau.
Mae rhai pobl sydd yn profi sgitsoffrenia ond yn profi un cyfnod o sgitsoffrenia yn eu bywydau; mae eraill yn profi sawl cyfnod gwahanol.
Beth sydd yn achosi sgitsoffrenia?
Nid oes ateb penodol ond mae yna nifer o theorïau:
- Mae peth ymchwil yn awgrymu fod person yn medru bod yn fwy tebygol o ddatblygu sgitsoffrenia etifeddol, er nad ydym wedi cadarnhau bod yna un ‘genyn sgitsoffrenia’ yn bodoli.
- Mae lefelau gormodol o’r cemegyn dopamine yn yr ymennydd wedi ei adnabod fel rhywbeth sydd o bosib yn achosi sgitsoffrenia.
- Mae theorïau eraill wedi cysylltu datblygiad sgitsoffrenia gyda magwraeth, materion seicolegol newydd wedi eu datrys, camdriniaeth.
- Mae nifer o ffactorau eraill wedi eu hadnabod fel ffactorau sydd o bosib yn achosi’r afiechyd, gan gynnwys: digwyddiadau sy’n achosi straen; defnyddio cyffuriau anghyfreithlon; anafiadau corfforol i’r ymennydd a phroblemau o ran datblygiad yr ymennydd.
Y tebygolrwydd yw bod yna gyfuniad o bethau yn achosi sgitsoffrenia sydd yn medru cynnwys rhagdueddiadau geneteg a digwyddiadau bywyd sydd yn medru gweithredu fel sbardun. Mae sgitsoffrenia yn afiechyd cymhleth ac mae nifer o ffactorau yn cyfrannu at yr afiechyd. Yn wir, mae rhai yn ystyried ‘sgitsoffrenia’ fel term cyffredinol am nifer o afiechydon gwahanol.
Mae’n bwysig cofio nad oes modd cynnig diffiniad gwyddonol a chynhwysfawr. Dylai claf fynnu ei fod yn derbyn esboniad llawn gan feddyg neu’r seiciatrydd o’r symptomau y maent yn profi, yn hytrach na cheisio ffocysu ar y diagnosis. Mae angen mynd i’r afael gyda’r symptomau yma wrth weithio tuag at adferiad.
Beth yw sgitsoffrenia?
Mae modd gosod symptomau sgitsoffrenia mewn dau gategori: symptomau positif a symptomau negatif. Mae symptomau positif fel arfer yn digwydd yng nghyfnod cyntaf y salwch ond maent yn medru bod yn bresennol ar unrhyw adeg. Maent yn symptomau seicosis (fel colli cysylltiad gyda realiti) mewn un ffordd neu fwy. Mae symptomau positif yn medru cynnwys:
- Rhidthdybiaethau: credoau personol na sydd yn wir ac yn seiliedig ar gysyniadau anghywir o’r realiti allanol; mae’r credoau yma yn medru bod yn rhai cadarn er gwaetha’r dystiolaeth sydd ar gael i’r gwrthwyneb. Mae paranoia yn medru bod yn elfen sylweddol o rithdybiaeth. Mae paranoia yn golygu bod person yn meddwl bod rhywun neu rywbeth yn gweithredu yn eu herbyn. Fel arall, mae rhai pobl yn credu eu bod yn arbennig neu’n unigryw mewn rhyw ffordd, er enghraifft, drwy gyfrwng perthynas ddwyfol.
- Rhithweledigaethau: mae hyn yn golygu profi neu’n credu pethau na sydd yn bodoli. Efallai bod hyn yn digwydd drwy gyfrwng eu synhwyrau: gweld, clywed, arogli neu deimlo rhywbeth na sydd yn wir. Mae clywed lleisiau yn ffurf gyffredinol o rithweledigaethau; mae lleisiau yn medru beirniadu’r person sydd yn clywed y lleisiau hynny ac mae hyn yn ychwanegu at y trallod.
- Aflonyddu’r broses o feddwl yn cael ei: mae hyn yn medru cynnwys llif o feddyliau dryslyd neu golli’ch holl feddyliau yn sydyn. Mae’r symptomau negatif yn tueddu i fod yn rhai hirdymor. Maent yn cael eu disgrifio fel rhai ‘negatif’ gan eu bod yn disgrifio’r ffaith fod swyddogaethau normal wedi eu heffeithio h.y. maent yn ’darostwng’ profiad. Mae symptomau negatif yn medru cynnwys:
- Diffyg emosiwn neu ysgogiad
- Blinder neu ddiffyg egni
- Bod ar wahân ac ynysig
- Diffyg canolbwyntio
- Collid diddordeb mewn bywyd
- Diffyg cwsg
Anhwylder Deubegynol
Anhwylder Deubegynol – sydd yn cael ei alw’n iselder manig weithiau – mae’n afiechyd meddwl difrifol sydd yn effeithio ar tua 1 ym mhob 100 person yn ystod eu bywydau.
Mae anhwylder deubegynol yn achosi newid sylweddol mewn hwyl person. Mae pobl sydd ag anhwylder deubegynol yn aml yn profi hyn dro ar ôl dro drwy gydol eu bywydau, er nad yw’r symptomau mor amlwg rhwng y cyfnodau o anhwylder deubegynol sydd yn cael eu profi.
Mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng anhwylder deubegynol ac iselder (er bod anhwylder deubegynol yn cael ei ddisgrifio fel iselder manig yn aml). Mae rhai pobl sydd ag anhwylder deubegynol yn profi cyfnodau hir o iselder gyda symptomau sydd yn debyg i ffurfiau eraill o iselder. Ychydig iawn o bobl sydd ond yn profi cyfnodau manig (highs). Ond i lawer o bobl, yr hyn sydd yn gwahaniaethu anhwylder deubegynol yw’r ffaith ei fod yn cynnwys cyfnodau o deimlo’n ‘manig’ ac yna cyfnodau o deimlo’n isel. Nid oes modd cymharu hyn gyda newid hwyl; mae anhwylder deubegynol yn aml yn cynnwys cyfnodau hir o iselder a mania.
Yr hyn sydd hefyd y gwneud yr afiechyd yn wahanol yw pa mor ddifrifol ydyw: mae’r ymdeimlad o deimlo’n wych neu’n isel yn medru bod yn eithafol ac yn medru cynnwys seicosis (colli cysylltiad gyda realiti). Fodd bynnag, mae yna raddfa o ran difrifoldeb pan ddaw hi at symptomau anhwylder deubegynol . Mewn geiriau eraill, mae rhai pobl yn medru profi symptomau mwy aciwt nag eraill.
Mae Hafal yn awgrymu nad yw cleifion ond yn ffocysu ar y diagnosis o anhwylder deubegynol. Yn hytrach, dylent fynnu eu bod yn derbyn esboniad llawn gan y meddyg neu’r seicolegydd o’r symptomau y maent yn profi, gan fod yn rhaid mynd i’r afael gyda’r symptomau er mwyn gweithio tuag at adferiad. Beth sydd yn achosi anhwylder deubegynol? Mae yna sawl theori am yr hyn sydd yn achosi anhwylder deubegynol. Mae ychydig o dystiolaeth yn awgrymu fod anhwylder deubegynol yn effeithio ar deuluoedd penodol a bod genynnau yn ffactor sylweddol. Mae theorïau eraill yn awgrymu fod pethau sydd yn digwydd i berson, fel digwyddiad mewn bywyd sydd yn achosi straen, yn medru arwain at symptomau o’r afiechyd. Y tebygolrwydd yw bod yna gyfuniad bethau yn achosi anhwylder deubegynol sydd yn medru cynnwys rhagdueddiad geneteg a digwyddiadau bywyd sydd yn sbarduno’r afiechyd.
Symptomau
Mae prif symptomau anhwylder deubegynol fel a ganlyn:
- Cyfnodau o ymddygiad manig fel:
- Teimlo’n hwyliog iawn yn barhaus
- Yn bigog ac yn aflonydd
- Egni cynyddol
- Ymdeimlad o hunanbwysigrwydd
- Angen ychydig iawn o gwsg
- Siarad yn ddi-stop
- Chwantus iawn o ran rhyw
- Meddwl ar wib
- Methu canolbwyntio
- Cymryd risgiau
- Gwario arian heb ystyried.
2.Cyfnod o ymddygiad pruddglwyfus/isel tebyg i:
- Teimlo’n isel neu’n drist drwy’r amser
- Gorbryder
- Diffyg diddordeb neu bleser mewn bywyd
- Newid mewn chwant bwyd neu bwysau’r corff
- Methu cysgu/gorgysgu
- Blinder llethol
- Diffyg egni
- Dim chwant rhywiol
- Hunan-niweidio neu’n meddwl am hunanladdiad
- Teimlo’n euog ac yn ddiwerth
- Methu canolbwyntio.
- Cyflwr cymysg gyda symptomau o fania ac iselder
- Efallai y bydd seicosis (colli cysylltiad gyda realiti) hefyd yn amlwg yn ystod cyfnodau o fania neu iselder. Mae hyn yn medru cynnwys rhithdybiaethau a rhithwelediagethau. Mae’r rhithdybiaethau yn golygu cael credoau sydd yn cael eu credu’n gryf ond na sydd yn wir a heb unrhyw sail mewn realiti; mae rhithwelediagethau yn cynnwys person yn profi neu’n meddwl am bethau na sydd yn bodoli.